CLWB Ffermwyr Ifanc Nantglyn ddaeth adref â chwpan y sir yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus Clybiau Ffermwyr Ifanc Clwyd yn ddiweddar.

Bu’n llwyddiant ysgubol i’r clwb wrth i dimau Nantglyn o dan 28, 21 ac 16 gipio’r gwobrau cyntaf i’r clwb a’r tîm o dan 14 ddod yn ail agos i Glwb Ffermwyr Ifanc Llannefydd.

Bu cystadlu brwd ar y noson o 6 o’r gloch ymlaen yn Ysgol Pentrefoelas.

“Mae brwdfrydedd y bobl ifanc i ymgymryd â’r dasg o ymarfer, trefnu sgriptiau, paratoi themâu a sefyll o flaen beirniad i draddodi ar bynciau penodol yn glod mawr i holl gystadleuwyr y sir,” meddai Ffion Clwyd Edwards, un o is-arweinyddion CFfI Nantglyn ac a oedd yn un o hyfforddwyr aelodau Nantglyn.

“Mae’n sgil sy’n aros gyda’r aelodau am oes, ac yn ddefnyddiol wrth iddynt baratoi ar gyfer cyfweliadau coleg a chyfweliadau am swyddi yn ystod eu gyrfa.

“Yn Nantglyn, mae traddodiad cryf o gymryd rhan yn yr ysgol sul a darllen a pherfformio yn yr ysgolion cynradd.

"Felly rydym yn ffodus bod yr awydd a’r awch i gystadlu yn parhau wrth i’r aelodau aeddfedu.”

Bydd rhai o’r aelodau yn teithio i Lanelwedd ddiwedd y mis i gynrychioli sir Clwyd yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus CFfI Cymru.

Pob lwc i bawb!