YN ein tiroedd mae’n treftadaeth meddan nhw a’r wythnos hon mae cyfrol arloesol wedi ei chyhoeddi sy’n ymateb i’r diddordeb cynyddol mewn enwau lleoedd yng Nghymru.

Mae Cerdded y Caeau gan Rhian Parry yn benllanw gwaith oes sy’n astudiaeth o enwau yn ardal Ardudwy, ond yn cynnig patrwm i unrhyw un sydd am olrhain enwau caeau yn eu hardal.

Datblygodd y gyfrol o ymchwil doethuriaeth yr awdur ac ynddi fe ddadlennir sut y gall yr ystyr y tu ôl i enwau lleoedd, ffermydd a chaeau uno tirwedd, hanes lleol a diwylliant Cymru gyfan.

Dangosodd ffrwyth ymchwil Rhian Parry fod y mwyafrif o’r enwau ffermydd a chaeau yn hynafol iawn, hyd at chwe chanrif oed a mwy.

Meddai’r awdures Rhian Parry: “Dim ond drwy gerdded y caeau y gallwn sylwi ar nodweddion y tir a sylweddoli bod yr enw a ddewiswyd yn hollol addas.

"Weithiau, mae enw hynafol yn ein cyffwrdd oherwydd cyd-destun ei leoliad, fel Cae Saffrwn yng Nglynebwy.

DARLLEN: Geiriadur daeareg newydd sbon i Gymru

"Pwy fyddai’n disgwyl gweld crocws mewn dyffryn mor ddiwydiannol?

“Mae enw’n fwy na label. Yn wir gallwn gyffwrdd â ‘hen bethau anghofiedig dynol ryw’ mewn enw.

"Bydd rhai enwau hynafol yn gyrru ias i lawr asgwrn fy nghefn, teimlad tebyg iawn i’r hyn a gaf wrth gyffwrdd â maen hir yn uwchdir Ardudwy.”

Mae enwau o bob math yn gwegian dan fygythiad newidiadau cymdeithasol ac yn diflannu’n gyflym yn anffodus.

Y gobaith yw y bydd y gyfrol yma, ynghyd â gwaith gan sefydliadau fel Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, yn gofnod i’r dyfodol, yn ail-gyflwyno enwau sydd erbyn hyn yn angof ac yn ysbrydoli astudiaethau tebyg dros Gymru.

Mae’r gyfrol clawr caled hon wedi ei ddarlunio’n hardd gan luniau a mapiau.

Mae Cerdded y Caeau ar gael nawr o’ch siopau Cymraeg lleol am £19.99 diolch i’r Lolfa.