MAE'R anturiaethwr Richard Parks yn enwog am dorri recordiau a gwthio ei hun i’r eithaf.

Ond tybed sut fydd e’n ymdopi gydag antur hollol wahanol wrth iddo fynd ar daith arbennig i ddysgu Cymraeg yn y rhifyn nesaf o Iaith Ar Daith ar S4C, nos Sul, Ebrill 17 am 8 o’r gloch?

Dyw Richard ddim ar ben ei hunan - bydd ei ffrind y rhedwraig ultra marathon Lowri Morgan wrth ei ochr yn cynnig cymorth ac yn gosod sawl her ieithyddol - a chorfforol!

Bu Richard Parks yn adnabyddus fel chwaraewr rygbi i glybiau Casnewydd, Pontypridd a Perpignan yn Ffrainc. Enillodd bedwar cap rhyngwladol dros Gymru cyn bu’n rhaid iddo ymddeol yn 2009 ar ôl anaf gwael.

Ar ôl iddo wella yn gorfforol ac yn feddyliol cychwynnodd ar antur nesaf ei fywyd sef torri record byd fel y person cyntaf i ddringo copa'r saith mynydd uchaf ym mhob un o’r saith cyfandir.

Felly mae Richard yn gyfarwydd â wynebu heriau ond roedd yn eitha’ pryderus ar ddechrau ei daith i ddysgu Cymraeg.

DARLLEN: Arwain, annog a chefnogi pum unigolyn i wella eu ffitrwydd!

“Fel dyn sy’n dod o etifeddiaeth gymysg, roeddwn i’n cael fy ngwneud i deimlo yn llai Cymraeg yn yr ysgol. Dwi eisiau i Fred, fy mab, fyw mewn gwlad lle mae mwy o bobl yn siarad Cymraeg.

“Mae siarad Cymraeg yn bwysig i fi - mae hyn yn rhan o rywbeth mwy i fi a fy nheulu. Wrth gwrs gall person fod yn Gymro balch heb orfod siarad Cymraeg yn rhugl.

“Ond oni wedi teimlo erioed bod rhan o fy hunaniaeth ar goll. Nawr fy mod i’n dad, dwi eisiau cyfrannu at y Gymru mae fy mab yn mynd i dyfu i fyny ynddo ac mae hyn wedi rhoi’r dewrder imi afael yn yr her.”

Meddai Lowri: “Dwi wedi nabod Richard ers blynyddoedd maith. Ni’n eitha’ tebyg - mae’r ddau ohonom ni wedi chwarae rygbi rhyngwladol, y ddau ohonom ni wedi cael anafiadau difrifol ac wedyn y ddau ohonom ni yn mynd mewn i’r byd anturio.

“Da ni wedi trafod mynd ar antur gyda’n gilydd ond oni ddim cweit yn disgwyl antur fel hyn!”

Yn ystod y daith bydd Richard, gyda help Lowri (a Nel y ci) yn rhoi sesiwn hyfforddi i dîm Clwb Rygbi Dolgellau, clywed stori Gelert y ci ym Meddgelert, adeiladu wal cerrig sych a gwneud syrffio ffoil ar y Fenai.

Bydd Richard hefyd yn ymuno ag Ameer Davies-Rana yn Ysgol Gynradd Beddgelert wrth i Ameer roi gweithdy am yr iaith Gymraeg yna fel rhan o’r ymgyrch i annog mwy o blant i siarad Cymraeg er mwyn bwrw targed

Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae gan Richard dasg arbennig iawn ar gyfer ei her gyfryngol - rhywbeth arall sy’n hollol newydd i’r anturiaethwr - ond bydd rhaid gwylio Iaith ar Daith ar nos Sul i ddarganfod mwy!

Gallwch dal i fyny a’r daith gyntaf yn y gyfres newydd Iaith Ar Daith gyda’r Parch. Kate Bottley a Jason Mohammad ar S4C Clic.