GYDA'R holl gystadlu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ledled y sir ar hyn o bryd, a’r wyl ar ein stepen drws ar dir fferm Kilford yn Ninbych, ddiwedd Mai, mae hi’n amserol cofio am ben-blwydd yr Urdd yn gant oed hefyd.

Mewn digwyddiad arbennig ar-lein, wedi ei drefnu gan Cwmulus gyda chefnogaeth Brenig Wind Ltd a Menter Iaith Sir Ddinbych, bydd y prifardd, yr awdur a’r cyhoeddwr, Myrddin ap Dafydd yn cynnig darlith ar-lein i’r gwrandawyr.

Testun y ddarlith, fydd Canrif yr Urdd.

Rhaid cofrestru o flaen llaw ac mae’r digwyddiad yn dechrau am 7 o’r gloch, nos Wener, Ebrill 29.

I gofrestru, ewch i www.cumulus.org.

Bydd mwy o’r hanes i’w weld yn fuan!

Cofiwch nodi’r dyddiad.