MAE Morrisons yn Ninbych wedi bod yn cydweithio gyda Banc Bwyd Dyffryn Clwyd dros fisoedd y gaeaf i gynorthwyo pobl llai ffodus na nhw’i hunain.

Roedd ‘coeden rodd’ wedi ei gosod yng nghangen y siop yn Ninbych lle roedd cwsmeriaid yn gallu prynu pelen o’r goeden Nadolig a’r elw yn mynd i elusen arbennig.

Yn ffodus i’r Banc Bwyd yn Ninbych, dyma’r elusen a ddewiswyd eleni.

Yn ôl rheolwr y Banc Bwyd, Rhys Thomas: “Codwyd dros £2,500 diolch i haelioni cwsmeriaid Dinbych a’r ardal.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am garedigrwdd y cwsmeriaid ac am gefnogaeth gyson y staff yn yr archfarchnad.

“Mae’n drist o beth yn yr oes sydd ohoni, bod rhaid i ni gefnogi unigolion a theuluoedd sy’n wynebu cyfnod heriol yn wythnosol o ganlyniad i’r cynnydd cyson sydd i gostau byw.

DARLLEN: Neuadd wedi gweld ail wynt dros yr wythnosau diwethaf

“Yn ffodus iawn, llwyddon ni i barhau ar agor trwy gydol cyfnod y pandemig, ac mae cefnogaeth Dawn a’r tîm yn Morrisons i barhau i’n cyflenwi â bwyd, wedi bod yn amhrisiadwy. Diolch o waelod calon.”

Mae Banc Bwyd Dinbych yn agored ar fore dydd Mawrth rhwng 10.30 a 12 ac ar fore dydd Iau hefyd rhwng 10.30 a 12.

Mae Banc Bwyd Rhuthun yn agored ar fore dydd Iau rhwng 10 a 12.30.

Maes Banc Bwyd Dyffryn Clwyd yn gwasanaethu ardal o Gorwen yn y de hyd at yr A55 yn Llanelwy yn y gogledd.

Mae banciau bwyd y Trussell Trust hefyd ar gael yn Abergele, Y Rhyl, Prestatyn a’r Wyddgrug.

Mae clientau yn cael eu cyfeirio gan o gwmpas 40 o asiantaethau lleol gan gynnwys CAB, DWP a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae gan Banc Bwyd Dyffryn Clwyd dwy ganolfan wedi’i lleoli yn Rhuthun a Dinbych.