LLONGYFARCHIADAU mawr i Dr Kathryn Jones ar ei phenodi’n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dywedodd Dr Jones, rheolwr gyfarwyddwr IAITH: “Bu’n fraint mawr cael y cyfle i gyfrannu i ddatblygiad y maes polisi a chynllunio Iaith yng Nghymru a thu hwnt trwy fy ngwaith gyda IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith dros y 23 mlynedd diwethaf.

"Rwy’n hynod o falch bod y gwaith yma wedi cael ei gydnabod trwy cael fy enwebu a’m derbyn i fod yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru."

Chwe deg chwech o Gymrodyr newydd yn cael eu hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, hanner ohonynt yn fenywod, sy’n dangos bod gan Gymru’r datrysiadau i nifer o heriau heddiw.

Academyddion, ymchwilwyr a ffigyrau cyhoeddus yn ymuno â’r gymdeithas o ar draws bywyd academaidd a dinesig yng Nghymru a thu hwnt.

Mae eu harbenigedd yn amrywio o beirianneg awyrofod i hanes Ewropeaid Affricanaidd, microadeileddau seramig i’r ffidl Faróc, menywod mewn llawfeddygaeth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a llawer o feysydd eraill. Gallwch lawrlwytho rhestr lawn o’r Cymrodyr newydd yn cynnwys eu sefydliadau a meysydd ymchwil o wefan y Gymdeithas Ddygedig.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, llywydd y Gymdeithas: “Mae gwybodaeth arbenigol ein Cymrodyr newydd yn rhagorol.

"Mae ystod yr ymchwil yn dangos bod Cymru mewn sefyllfa dda i gwrdd â’r heriau a.mgylcheddol, technegol, cymdeithasol, diwylliannol ac iechyd sy’n ein hwynebu.

“Mae gallu’r Gymdeithas i ddod â’r bobl dalentog yma at ei gilydd yn ein caniatáu i ddechrau a dylanwadu ar ddadleuon pwysig am sut mae Cymru, y DU a’r byd yn gallu llywio’r dyfroedd tymhestlog sydd o’n blaen heddiw.

”Rwy’n falch iawn bod 50 y cant o’n Cymrodyr yn fenywod. Mae hyn yn dangos ein bod yn dechrau cwrdd â’n hymrwymiadau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae yna waith i’w wneud eto, wrth i ni weithio i sicrhau bod y Gymdeithas yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru, ond mae hwn yn gam pwysig.”