GWRACHOD enwog, ogofau rhyfeddol a dannedd cyn hanesyddol.

Dyffryn Clwyd fydd y lleoliad diweddaraf i ni ymweld ag ef ym mhennod nesaf y gyfres Cynefin, fydd i’w gweld ar S4C nos Sul, Ionawr 28 (8pm).

Mae’n ardal sy’n byrlymu ag hanesion a chwedlau difyr, a digon o ofergoelion.

Ym Mhwll y Grawys, Dinbych mae straeon di-ri yn adrodd hanes yr ysbrydion a’r gwrachod oedd yn llechu yno a’r rheiny’n ddigon parod i godi ofn ar y trigolion diniwed fel yr eglura un o gyflwynwyr y gyfres Siôn Tomos Owen.

Dywedodd: “Mae gan Ddinbych enw fel tref braidd yn ofergoelus, gyda'i phobl yn trin â phethau fel ysbrydion a gwrachod yn ddifrifol iawn.

"Ymhlith yr enwau a gofnodir fel un o wrachod Dinbych oedd Sioned Gorn. Un arall oedd Bela Fawr, sydd wedi ei hanfarwoli mewn llun gan Edward Pugh, wedi i’r wrach godi’r felltith oddi arno.”

Hanes ychydig yn fwy ffeithiol, ond yr un mor anhygoel, sy’n cael sylw cyd-gyflwynydd Siôn, yr archeolegydd Iestyn Jones, wrth iddo deithio trwy ogofau a ffurfiwyd gan Afon Elwy yng Ngorllewin y Dyffryn.

Cawn glywed ganddo am ymweliad y gwyddonwyr byd-enwog Charles Darwin a’i gyfaill yr Athro Adam Segwick yn y 19eg ganrif a’u darganfyddiad rhyfeddol.

Cewch ddysgu mwy am hud a hanes unigryw Dyffryn Clwyd gyda Iestyn, Siôn a Heledd Cynwal wrth i'r daith drwy ardaloedd amrywiol Cymru barhau ar Ionawr 28.