OS ydych wedi bod yn siopa yn ein trefi lleol dros y dyddiau diwethaf, byddwch yn siwr o fod wedi sylwi bod rhai o ffenestri yn Ninbych, Rhuthun a Llangollen, yn drawiadol iawn gyda chreadigrwydd a lliwiau i gyfleu diwrnod ein nawddsant.

Cynhelir cystadleuaeth ffenestri Dydd Gwyl Dewi yn flynyddol gan Fenter Iaith Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth y cynghorau tref.

Meddai Iorwen Jones, cydlynydd y gystadleuaeth: “Braf iawn yw gweld gymaint o fusnesau yn cymryd rhan, ac yn ymuno yn ysbryd yr wyl.”

Enillydd y gystadleuaeth yn Rhuthun, a feirniadwyd ddydd Llun, oedd siop Candy Shack ar Stryd y Ffynnon.

Ceir lluniau pawb a gymerodd rhan ar dudalen Facebook Menter Iaith Sir Ddinbych a bydd llun enillwyr Dinbych a Llangollen ar y dudalen hon yr wythnos nesaf.