BYDD safleoedd hanesyddol yn agor eu drysau i ymwelwyr yn ddi-dâl fel rhan o ddathliadau ein nawddsant, fu farw yn ôl y sôn ar Mawrth 1, 589.

Mae mynediad am ddim i'w safleoedd ar Ddydd Gwyl Dewi yn rhan o ymdrechion parhaus Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, i ehangu a chyflwyno cynlluniau a mentrau newydd sydd wedi'u hanelu at greu diddordeb, annog cyfranogiad a sicrhau bod mwy o bobl yn dod i safleoedd treftadaeth Cymru.

Mae safleoedd Cadw yn Sir Ddinbych yn cynwys Castell Rhuddlan, Castell Dinbych ac Abaty Glyn y Groes

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cadw.