BYDD holl gemau tîm pêl-droed Cymru yn ystod UEFA EURO 2020 yr haf yma i’w gweld yn fyw, yn Gymraeg, ar S4C a S4C Clic.

Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yn Baku, Azerbaijan ddydd Sadwrn 12 Mehefin, yn erbyn y Swistir, am 2.00yh. Ar 16 Mehefin, bydd y Dreigiau yn chwarae eu hail gêm, yn erbyn Twrci, yn Baku, gyda’r gic gyntaf am 5.00yh. cyn teithio i Rufain ar gyfer eu gêm grŵp olaf, yn erbyn Yr Eidal, ar 20 Mehefin, am 5.00yh.

BBC Cymru fydd yn cynhyrchu arlwy S4C o UEFA EURO 2020.

Ac wrth i Gymru baratoi am y bencampwriaeth, bydd hefyd modd gwylio dwy gêm gyfeillgar ar S4C. Ar nos Ferchar, bydd Cymru yn herio pencampwyr y byd, Ffrainc, gyda’r gic gyntaf am 8.05yh. Ac ar nos Sadwrn 5, bydd yn croesawu Albania i Stadiwm Dinas Caerdydd am 5.00yh, yn eu gêm olaf cyn UEFA EURO 2020.

Dywedodd y cyflwynydd, Dylan Ebenezer: “Mae gan bawb atgofion melys o be’ ddigwyddodd yn Ffrainc yn ystod haf 2016.”

Dilynwch @S4Cchwaraeon ar gyfryngau cymdeithasol am fwy.