DAETH hanner cant ohonon ni ynghyd ym Melin Brwcws i glywed Yr Athro Richard Wyn Jones yn esbonio beth oedd pwrpas y mudiad newydd Dyfodol i’r Iaith.

Nododd fod ymgyrchwyr dros y Gymraeg yn dal i weithredu fel pe na bai gennym Senedd o gwbl, yn hytrach na cheisio defnyddio aelodau a swyddogion y Senedd i wireddu eu dymuniadau.

Soniodd fel y mae pob mudiad arall yn cyflogi pobl i lobïo dros eu hachos ym Mae Caerdydd, ond nad oes yr un adyn byw yn gwneud hynny dros ein haith.

Mae gan warchodwyr pob math o anifeiliaid bobl sy’n cael eu talu i wneud dim ond sicrhau fod unrhyw ddeddf newydd yn gofalu nad yw... ystlumod, dyweder, yn cael cam.

Y gyfrinach yw canfod pa ddeddfau newydd sydd ar y gorwel ac yna siarad gyda’r Aelodau CyNiad a’u swyddogion fydd yn paratoi’r deddfau hynny.

Mae’n amlwg fod y mudiadau hyn i gyd yn gweld gwerth mewn lobïo o’r fath ac yn credu eu bod yn gallu dylanwadu yn y ffordd dawel, ddi-gynnwrf honno.

Un wers a ddysgais i fel ymgeisydd seneddol a chyNiad yw nad oes modd argyhoeddi neb am ddim wrth ymosod arnyn nhw. Dim ond wrth drafod yn rhesymol a rhesymegol y mae cael pobl i gytuno efo chi ac i gefnogi’ch syniadau.

Pwrpas pennaf Dyfodol i’r Iaith, felly, yw cyflogi dau berson fydd yn gweithio’n barhaol yn y Senedd yn sicrhau y bydd ystyriaeth i’r Gymraeg wrth gynllunio a chyflwyno pob deddf newydd. Ond mae angen arian sylweddol i wneud hynny, a dyna pam y mae Dyfodol yn gwahodd pawb sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu yn dod yn aelod o’r mudiad.

Mae nifer oedd yn y cyfarfod yn y Brwcws wedi’u argyhoeddi ac wedi ymaelodi. Croeso i unrhyw un arall sydd am gefnogi’r Gymraeg gysylltu efo fi ac mi drefna’i bopeth iddyn nhw: eifion@lladdnadroedd.com