CAFWYD noson lwyddiannus yng Ngherrig y Drudion nos Iau diwethaf pan gynhaliodd Clybiau Ffermwyr Ifanc Clwyd eu cystadleuaeth siarad cyhoeddus.
Roedd saith tîm ymhob cystadleuaeth ac fe ddaeth Clwb Uwchaled yn gyntaf, gyda Chlwb Chwitffordd yn ail agos iawn.
Roedd y beirniad Menai Williams yn rhoi tîm Nantglyn ar y blaen yn y gystadleuaeth o dan 14 oed.
Yn yr adran o dan 16, roedd Angharad Davies y beirniad yn gosod Llannefydd yn gyntaf, hefo Gwenno Williams, Miriam Owens a Fflur Evans yn cystadlu fel tîm.
Paul Williams oedd yn beirniadu’r adran o dan 21 ac fe ddaeth Clwb Chwitffordd i’r brig, ac o dan 26 - hefo Dafydd Jones - yn beirniadu, fe ddaeth Clwb Uwchaled yn gyntaf.
Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth Cymru a gynhelir yn Llanelwedd ar Mawrth 24.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here