YN gynharach yr wythnos hon, a hithau’n wythnos Gwyl Hanes Cymru, cafodd disgyblion ysgolion cynradd gyfle i ddod i adnabod Thomas Telford, y gwr a oedd yn gyfrifol am adeiladu pont ddwr Pontcysyllte a chamlas Llangollen.

Yn y sioe a ysgrifennwyd gan y dramodydd ifanc Lois Llywelyn Williams i gwmni Mewn Cymeriad, dychwelodd Thomas Telford i Gymru gan ei fod wedi clywed fod ei gampwaith wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd.

Tra’n adrodd hanes ei fywyd, cafwyd cymorth y gynulleidfa i ddod o hyd i’w gampwaith ac fe gafodd y plant ddysgu am gyfnod eithriadol yn hanes Cymru - cyfnod y Chwyldro Diwydiannol.

Perfformir sioe arall yn ystod yr Wyl, ddydd Sul, Medi 30, pan gaiff ymwelwyr glywed am gampwaith arall yn hanes Cymru, sef cyfieithiad o’r Beibl gan Yr Esgob William Morgan.

Llion Williams fydd yn cyflwyno'r Esgob Morgan ar safle Eglwys Caerlyr yn Ninbych, lle fu William Morgan yn ficer yn niwedd y 16eg ganrif.

Bydd mynediad am ddim, ond mae angen cadw lle drwy gysylltu â Llyfrgell Dinbych ar 01745 816313.