DDYDD Sul, Tachwedd 11, wrth i gymunedau ledled y wlad gofio am y rhai a gollwyd neu effeithiwyd yn y Rhyfel Mawr, bydd cymunedau gwledig yng nghanol Dyffryn Clwyd yn dod at ei gilydd i nodi canmlwyddiant y Cadoediad gyda llyfr newydd.

Bydd Cymdeithas Hanes Lleol Llandyrnog a Llangwyfan yn lansio llyfr dwyieithog 'Llandyrnog & Llangwyfan Y Rhyfel Mawr 1914-18 The Great War' ddydd Sul yma am 12.15pm yn Neuadd y Pentref, Llandyrnog, i gyd-fynd â chanmlwyddiant y Cadoediad.

Mae’r llyfr yn cynnwys ysgrifau am yr holl ddynion a fu farw, yn ogystal â darlun o fywyd y pentref yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd y lansio yn dilyn gwasanaeth Sul y Cofio (10.50am) yn Eglwys St Tyrnog, Llandyrnog ac estynnwn groeso cynnes i bawb.

Bydd cyfle i brynu’r llyfr am bris arbennig o £12.50 ar y diwrnod (£14 ar ôl hynny) a bydd lluniaeth ysgafn ar gael hefyd.

Wrth ymchwilio i’r milwyr sydd wedi’u coffáu ar Gofeb Llandyrnog ar gyfer y llyfr, fe ddaeth i’r amlwg bod dau ddyn arall a oedd yn gysylltiedig â’r pentrefi hefyd wedi marw yn ystod y rhyfel.

Penderfynwyd anrhydeddu’r ddau ddyn hyn hefyd ac ychwanegu eu henwau at yr 19 sydd eisoes wedi’u cofnodi.

Chwiliwyd am berthnasau’r dynion i gael eu cymeradwyaeth ac fe gafwyd hyd iddyn nhw ar ôl ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r saer maen Paul Davies, o Wrecsam, wedi ychwanegu enwau Robert T Davies a Martin L Williams at y gofeb.

Cyfrannodd Cronfa’r Degwm, Sir Ddinbych 2018–19 at y gwaith hwn.

Mae croeso cynnes bob amser i bawb i gyfarfodydd Cymdeithas Hanes Lleol Llandyrnog a Llangwyfan, boed yn aelodau ai peidio.

£5 ydy’r gost flynyddol am dri chyfarfod gyda phaned i bawb ar eu diwedd.

Hefyd, trefnir ymweliad blynyddol i’r aelodau.

Am ragor o fanylion, i archebu’r llyfr ymlaen llaw neu i ymuno â’r gymdeithas, cysylltwch â’r ysgrifennydd ar llangwyfanhistory@hotmail.com

S4C i ddarlledu perfformiad hanesyddol o ‘Y Dyn Arfog: Offeren Dros Heddwch’

MAE Syr Karl Jenkins wedi arwain perfformiad o ‘Y Dyn Arfog: Offeren Dros Heddwch’ yn ninas Berlin i goffau canrif ers diwedd y Rhyfel Mawr a bydd S4C yn darlledu’r perfformiad mewn rhaglen arbennig Cyngerdd Heddwch Berlin nos Sul, Tachwedd 11 am 7:30pm.