MAE arddangosfa newydd wedi agor yn y Llyfrgell Genedlaethol i ddathlu bywyd a gwaith Humphrey Llwyd (1527-1568).

Yn Lluniwr Prydain: Bywyd a Gwaith Humphrey Llwyd bydd gwaith pwysicaf Llwyd yn cael ei arddangos, gan roi sylw i’w gampau niferus ac esbonio eu harwyddocâd heddiw.

Cynhelir yr arddangosfa ar y cyd â’r prosiect Inventor of Britain: The Complete Works of Humphrey Llwyd a ariennir gan AHRC a bydd yn dathlu ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru ac yn amlygu’r ymchwil newydd a gynhyrchwyd fel rhan o’r prosiect.

Ystyrir Humphrey Llwyd, hynafiaethydd a gwneuthurwr mapiau, a aned yn Ninbych, fel Lluniwr Prydain, gan mai ef sy’n cael y clod am fathu’r term Ymerodraeth Brydeinig, ond hefyd am mai ef oedd y gwr a roddodd Gymru ar y map trwy gyhoeddi’r map cyntaf yn dangos Cymru fel gwlad.

Fel un o wyr blaenllaw cyfnod y Dadeni yng Nghymru, cyflawnodd lawer a chwaraeodd ran amlwg yn y broses o greu’r cysyniad o Gymru fel gwlad.

Cynhyrchodd nifer o weithiau pwysig gan gynnwys cyfieithiad Saesneg o’r gwaith cynnar Brut y Tywysogion.

Hefyd, bu’n allweddol yn yr ymdrech i helpu i lywio’r mesur ar gyfer cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg drwy’r Senedd a phoblogeiddio hanes Tywysog Madog yn darganfod America.

Er iddo gael ei ddisgrifio fel “un o hynafiaethwyr enwocaf ein gwlad” yn ystod ei oes ac fel “un o ddyniaethwyr pwysicaf Cymru ac yn ffigwr allweddol yn hanes y Dadeni yng Nghymru” gan Saunders Lewis, mae hanes Llwyd yn parhau’n anghyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl.

Meddai Huw Thomas, curadur mapiau y llyfrgell: “Mae Humphrey Llwyd yn un o’r rhai sy’n cael ei danbrisio fwyaf o blith gwyr cyfnod y Dadeni yng Nghymru.

"Yn benodol, ef yw tad cartograffeg Cymru ac felly mae’n briodol iawn i ni ddathlu hynny yma’n y llyfrgell lle cedwir casgliad mor bwysig o’i waith.”

Bydd nifer o weithiau pwysicaf Llwyd yn cael eu harddangos yn yr arddangosfa hon, gan gynnwys nifer o gopïau o’i fap o Gymru a llythyr gan Llwyd i Ortelius a ysgrifennwyd ar ei wely angau, gan sicrhau bod ei gyfraniad at hanes a diwylliant Cymru’n cael ei gydnabod a’i ddathlu.

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau wedi’i drefnu ar gyfer cyfnod yr arddangosfa, manylion ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd yr arddangosfa, Lluniwr Prydain: Bywyd a Gwaith Humphrey Llwyd, ar agor hyd Mehefin 29 yn Oriel Hengwrt.

Mynediad am ddim.