MAE Grwp Cynefin wedi canmol ei gwirfoddolwyr ar ôl iddynt ennill dwy wobr gymunedol.

Mae maer Dinbych, y Cynghorydd Catherine Jones, ac ieuenctid Dinbych, Denbigh Youth Shedz, grwp sy'n cefnogi pobl ifanc sydd wedi bod yn ddigartref, ill dau wedi ennill Gwobr Uchel Siryf Clwyd.

Cyflwynir yr anrhydeddau yn flynyddol i bobl sydd wedi gwneud cyfraniadau arbennig i gymunedau yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Ac mae enillwyr Dinbych eleni yn gweithio'n agos gyda Grwp Cynefin ar nifer o gynlluniau elusennol di-elw.

Enillodd Catherine, un o denantiaid y gymdeithas dai a maer y dref, y wobr gwirfoddolwraig unigol.

Mae hi'n ymwneud â nifer o sefydliadau lleol gan gynnwys Carnifal Dinbych, Grwp Digwyddiadau Dinbych, a phwyllgor cwsmeriaid a chymunedau Grwp Cynefin.

Enillodd Denbigh Youth Shedz, a sefydlwyd gan bobl ifanc sy'n gweithio gyda gwasanaeth cefnogi Grwp Cynefin, Gorwel, wobr yr Uchel Siryf i sefydliadau gwirfoddol.

Dechreuodd y prosiect, sy'n ceisio helpu pobl ifanc fregus i fagu hyder a dysgu sgiliau bywyd, yn Ninbych yn 2017, ac ers hynny mae Shedz wedi agor ym Mae Colwyn, Abergele a Bae Cinmel.

Yn ôl Mair Edwards, rheolwr mentrau cymunedol Grwp Cynefin: “Mae'r gwahaniaeth mae cyfraniadau y Cynghorydd Catherine Jones a Youth Shedz Dinbych yn ei roi i’r dref yn amhrisiadwy.

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda nhw i helpu i wella bywydau ein tenantiaid.”