MAE trigolion lleol a chymunedau cyfagos wedi ymuno â’i gilydd i lanhau coetir Rhos y Coed yn Nhrefor, ger Llangollen.

Mae’r coetir wedi profi problemau â thipio anghyfreithlon, ond fe ddaeth gwir raddau’r broblem sbwriel i’r amlwg pan grëwyd llwybr newydd drwy’r coetir yn cysylltu’r ganolfan gymunedol â’r gamlas a galluogi pobl i fynd yn agos at y clincer anferth, sy’n enghraifft o dipio anghyfreithlon hanesyddol ynddo’i hun, yn dyddio’n ôl i 1870 ac yn un o olion y diwydiant dur lleol!

Mae’r Llwybr Clincer, fel yr adnabyddir ef bellach, a’r coed newydd, a blannwyd gan grwpiau sgowtiaid lleol rai wythnosau yn ôl, wedi bod yn bosibl drwy Brosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ Cronfa Treftadaeth y Loteri fel rhan o gylch gwaith y gronfa i wella mynediad at gefn gwlad darluniadwy.

Daeth 10 o unigolion ynghyd i lanhau’r coetir a’i wella ar gyfer pobl a bywyd gwyllt a chasglwyd 20 o fagiau sbwriel llawn ac eitemau mawr eraill.