AM dymor llawn goliau!

Mae cystadleuaeth pêl-droed Cynghrair yr Haf Llandyrnog a'r Cylch yn nesáu at ei ddiweddglo, gyda mwy na 500 o goliau wedi taro'r rhwyd.

Y pencampwyr tro yma yw Llangynhafal.

Ers colli'r 2 gem agoriadol, mae'r tîm wedi chwarae yn wych ac allan o'r 19 gem maen nhw wedi chwarae, mae Llangynhafal wedi bod yn fuddugol mewn 15 ohonynt.

I ychwanegu at hyn, mae Llangynhafal wedi sgorio 81 o weithiau - y cyfanswm mwyaf yn y gynghrair tymor yma.

Henllan fydd yn gorffen yn ail a gydag un gem i fynd, maen nhw'n treulio Llangynhafal o 4 phwynt.

Mae Nantglyn, Cefn a Llanrhaeadr yn siwr i orffen yn y 5 ucha', tra bod Llanfair yn 6ed ar hyn o bryd, ond allai Ysgeifiog gorffen yn y 6 gyda buddugoliaeth yn Rhewl nos fory (nos Iau).

I Gaerwys a Clawddnewydd, mae wedi bod yn dymor anodd.

Rhwng y ddau, maen nhw wedi colli 29 allan o 37, a Clawddnewydd sydd yn debygol i orffen ar y gwaelod.