AP realiti estynedig o enwau lleoedd cynhenid ydi Tro.

Daeth y syniad o greu ap o enwau’r tirwedd i fodolaeth ar ddiwedd cynhadledd a gynhaliwyd yn enw Mynyddoedd Pawb rhyw ddwy flynedd yn ôl.

Mynyddoedd Pawb, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Cwmni Galactig sy’n gyfrifol am yr ap.

Fe sicrhawyd grant Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r prosiect, sydd hefyd yn cyd-weithio hefo Menter Iaith Sir Ddinbych a Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

Mae Tro yn cynnwys rhan ogleddol o Lwybr Clawdd Offa o Brestatyn i’r Waun.

Wrth gerdded, bydd y ffôn fach yn ddirgrynu pan o fewn dalgylch penodol.

Yna, mae modd edrych ar yr olygfa trwy sgrin y ffôn er mwyn gweld enwau’r lleoedd yn ymddangos.

Wrth rhoi eich bys ar yr enw ar y sgrin, clywir ynganiad a cheir ystyr a chefndir i bob enw.

Cafwyd cymorth gan Hywel Wyn Owen a defnyddiwyd llyfrau Dictionary of the Place Names of Wales (Hywel Wyn Owen a Richard Morgan) a Placenames of Flintshire (Hywel Wyn Owen a Ken Lloyd Gruffydd) wrth ddatblygu cynnwys yr ap.

Mae Mynyddoedd Pawb wedi bod yn ymgyrchu i gynyddu’r ymwybyddiaeth o’r dreftadaeth Gymraeg yn y maes awyr agored ers sawl blwyddyn.

Aed â deiseb i’r Cynulliad yn 2015 oedd yn ceisio darbwyllo Llywodraeth Cymru fod gwerth addysgol ac economaidd yn ogystal a diwylliannol i’n enwau lleoedd cynhenid.

Meddai Mari Gwent, o Mynyddoedd Pawb: “Bydd yr ap yn cyflwyno'r Gymraeg a’i chyfoeth i bawb, yr enwau llefydd fydd yr allwedd i hynny.

"Gobeithiwn y bydd yr ap yn ysgogi diddordeb yn yr iaith, ac yn ennyn diddordeb ac ymwybyddiaeth o gyfoeth ein treftadaeth leol.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan AC: "Mae gennym gynllun uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

"Er mwyn gwneud hyn, rhaid inni ei wneud mor hawdd â phosibl i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

"Dyna pam mae sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio technoleg ddigidol drwy gyfrwng y Gymraeg mor hanfodol.

"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu i ariannu’r ap newydd hwn TRO sydd yn cael ei lansio heddiw.

"Dyma ddatblygiad cyffrous iawn sy’n caniatáu i gerddwyr archwilio enwau lleoedd ar draws tirweddau gogoneddus gogledd-ddwyrain Cymru mewn realiti cymysg ar eu dyfais ddigidol, hyn oll drwy gyfrwng y Gymraeg."

I lawrlwytho’r ap ewch i wefan Tro.cymru cyn dechrau crwydro ar hyd Llwybr Clawdd Offa.