AR ôl goleuadau llachar a gormodedd yr wyl, mae mis Ionawr yn gallu teimlo fel y mis mwyaf tywyll o'r flwyddyn. Wrth ychwanegu hynny at y tywydd gwael, y dyddiau byr, y dyledion sydd wedi casglu dros y Nadolig a gweld llai o’ch ffrindiau a’ch teulu, nid yw'n syndod y gall pobl deimlo'n ddiflas ac yn isel.

Mae Teresa Owen, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi rhannu deg awgrym da ar sut i guro hwyliau gwael Mis Ionawr.

1. Treuliwch amser yng ngolau dydd.

2. Ymarfer corff.

3. Bwyta'n iawn.

4. Cael digon o gwsg.

5. Adnabod eich pryderon.

6. Darllenwch lyfr da.

7. Byddwch yn garedig â chi eich hun.

8. Byddwch yn gyfrifol a diffoddwch eich dyfeisiau technoleg.

9. Dysgwch rywbeth newydd.

10. Defnyddiwch y Pum Ffordd at Les, negeseuon sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi eu hanelu i wella iechyd meddwl a lles y boblogaeth.

Ewch i: https://bipbc.gig.cymru/gwybodaeth-a-chyngor-iechyd/5-ways-to-wellbeing/pum-ffordd-at-les/ i ddysgu mwy.