MAE hi’n gyfnod newydd yn hanes rygbi Cymru.

Gyda hyfforddwr newydd a sawl chwaraewr ifanc yng ngharfan Cymru, bydd Chwe Gwlad Guinness 2020 yn un llawn antur, yn ôl cyflwynydd Clwb Rygbi Rhyngwladol Gareth Rhys Owen.

Ar ôl ennill y Gamp Lawn y llynedd, bydd Cymru yn cychwyn eu hamddiffyniad o’r goron gyda gêm gartref yn erbyn Yr Eidal ar ddydd Sadwrn, Chwefror 1. Bydd modd gwylio pob un o gemau tîm y dynion yn ystod y bencampwriaeth gyda thîm Clwb Rygbi Rhyngwladol ar S4C.

Bydd tair o gemau tîm Menywod Cymru i’w weld ar S4C hefyd, yn erbyn Iwerddon ar ddydd Sul, Chwefror 9 a Ffrainc ar ddydd Sul, Chwefror 23 a gwe-ddarllediad o’r gem yn erbyn Lloegr ar ddydd Sadwrn, Mawrth 7, yn ogystal â dwy o gemau’r tîm dan-20, yn erbyn yr Eidal ar nos Wener, Ionawr 31 a’r Alban ar nos Wener, Mawrth 13.

Dywedodd Gareth Rhys Owen: "I ni yng Nghymru, mae hwn yn ddechrau ar gyfnod newydd sbon gyda’r hyfforddwr newydd, Wayne Pivac, felly mae’n gyfnod cynhyrfus.

"Dy’n ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

"O dreulio digon o amser yng nghwmni Pivac, mae e’n gymeriad cymdeithasol a hoffus iawn.

"Fyddwn i ddim yn synnu gweld ei bersonoliaeth yn adlewyrchu ar dîm Cymru, drwy wneud y tîm bach mwy parod i fynegi eu hunain ac i ymgeisio’r annisgwyl.

"Ond fyddwn i ddim yn disgwyl iddo ddiystyru popeth gafodd ei adeiladu yn ystod cyfnod Gatland chwaith, a’r holl rinweddau positif a llwyddiannus o’r arddull honno."

Cafodd pum chwaraewr di-gap eu henwi yng ngharfan Pivac ar gyfer y bencampwriaeth, ac mae Gareth yn gobeithio eu gweld yn creu argraff yn y crys coch.

A phwy mae Gareth yn ystyried fel y ffefrynnau i ennill eleni?

"Lloegr, heb amheuaeth. Mae eu pymtheg gyntaf, ar bapur, yn frawychus ac mae profiad ganddyn nhw yn y safleoedd pwysig i gyd yn ogystal a chwaraewyr ifanc gwych.

"Mi fyddwn i’n disgwyl gweld Gymru’n ennill eu gemau cartref, gyda’r gwledydd gleision i gyd yng Nghaerdydd.

"Y gemau oddi gartref yn erbyn Iwerddon a Lloegr yw’r anoddaf. Ond gyda Cymru, Iwerddon a Ffrainc i gyd yn mynd drwy gyfnod o ail-strwythuro, mae’r ansicrwydd o sut fydd y timoedd yma’n chwarae yn gwneud hwn yn bencampwriaeth anturus a chyffrous."