MAE pobl sy'n dymuno sicrhau llety mewn cynllun gofal ychwanegol gwerth miliynau o bunnoedd yn Ninbych yn cael eu gwahodd i ddiwrnod agored.

Bydd aelodau’r cyhoedd yn cael cyfle i gyfarfod â swyddogion o gymdeithas dai Grwp Cynefin, i ddysgu mwy am gynllun Awel y Dyffryn sydd wedi'i leoli ar hen safle Ysgol Lôn Ganol, Dinbych ac sy’n bwriadu croesawu preswylwyr yn ddiweddarach eleni.

Bydd Awel y Dyffryn yn diwallu anghenion pobl hyn sydd eisiau byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, ond gyda gofal a chefnogaeth ar gael 24 awr.

Bydd 42 o fflatiau dwy ystafell wely yn y lleoliad a 24 fflat un ystafell wely.

Cynhelir y diwrnod agored yng Nghanolfan Gymunedol Eirianfa, Dinbych, ddydd Llun, Mawrth 16 rhwng 2 y prynhawn a 6 yr hwyr.

Bydd staff Grwp Cynefin a Chyngor Sir Ddinbych wrth law i egluro beth fydd ar gael o fewn y fflatiau, am ystafelloedd cymunedol a chyfleusterau a rennir, yn ogystal â’r gwasanaethau a gynigir a sut i wneud cais er mwyn cael eich ystyried fel tenant ar gyfer un o’r fflatiau.

Yn ôl Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grwp Cynefin: “Yma yng Ngrwp Cynefin, un o’n haddewidion yw cynnig mwy na thai i’n tenantiaid.

"Mae'r diwrnod agored yn cynnig i aelodau’r cyhoedd ddarganfod mwy a gweld drostynt eu hunain sut y bydd Awel y Dyffryn yn cefnogi anghenion lleol pobl hyn.

"Gall ymgeiswyr gofrestru eu diddordeb trwy gysylltu â'n tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0300 111 2122 neu drwy alw heibio i'n swyddfa yn Ninbych i godi ffurflen gais.

"Bydd ein swyddogion wrth law ar Fawrth 16 i gynorthwyo ymhellach.”

Meddai’r Cyng Bobby Feeley, aelod arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros les ac annibyniaeth: “Rydym falch iawn fod yn gweithio mewn partneriaeth â Grwp Cynefin ar y prosiect hwn a fydd yn helpu pobl hyn i fyw yn annibynnol ac yn gwneud ein cymunedau’n fwy gwydn.”

Fel rhan o'r datblygiad gofal ychwanegol gwerth £12m, bydd tenantiaid yn gallu defnyddio cyfleusterau cymunedol gan gynnwys bwyty, ystafell weithgareddau, ystafelloedd ymlacio cymunedol, gerddi wedi'u tirlunio ac ystafell olchi dillad.

Rhoddir blaenoriaeth i denantiaethau i drigolion Sir Ddinbych sy'n 60 oed neu'n hyn.

Mae'r cynllun canol tref 66 fflat yn brosiect ar y cyd rhwng Grwp Cynefin a Chyngor Sir Dinbych, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.grwpcynefin.org