GYDAG ymchwil diweddar yn dangos fod perygl gwirioneddol i genhedlaeth o ferched roi’r gorau i chwaraeon, mae Urdd Gobaith Cymru, gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Cymru, yn lansio’r prosiect cenedlaethol #FelMerch er mwyn taclo’r broblem.

O lansio #FelMerch, nod yr Urdd yw sicrhau bod pob merch a menyw ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon hamdden, beth bynnag fo’u gallu neu brofiad, wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio ac i’r dyfodol.

Yn ôl ymchwil newydd gan Always nid yw mwy na hanner (55%) o ferched yn eu harddegau yn cadw’n heini, gyda thri chwarter ohonynt (75%) yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth i’w cadw mewn chwaraeon. Mae ymchwil gan Chwaraeon Cymru hefyd yn dangos fod y pandemig wedi arwain at fwy o fenywod yn adrodd eu bod yn gwneud llai o chwaraeon, yn ogystal â theimlo’n euog am beidio â chadw’n heini, ac yn poeni am adael y tŷ.

Prif nod #FelMerch yw ysbrydoli, cefnogi ac ymbweru merched 14-25 oed i gadw’n actif a chwalu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon drwy gyflawni’r canlynol:

• Cynnal gweithgareddau wythnosol cynhwysol, wyneb yn wyneb neu’n rhithiol.

• Sefydlu fforymau rhanbarthol a chenedlaethol.

• Penodi Llysgenhadon er mwyn ysbrydoli eraill, gan gynnwys Llysgenhadon cenedlaethol fel maswr tîm merched Cymru a Bryste, Elinor Snowsill.

• Darparu rhaglenni arweinyddiaeth.

• Sefydlu hybiau cymunedol yn ystod gwyliau.

• Trefnu cynhadledd genedlaethol er mwyn rhannu llwyddiant a syniadau.

Ewch i wefan yr Urdd i ddarllen mwy.