Mae Mudiad Meithrin yn falch o gyhoeddi ap newydd sy’n cynnwys 3 e-lyfr Cymraeg, gydag un o’r llyfrau hyn wedi’i gyfieithu i’r Wyddeleg fel y gall Gaeloideachas ei ddefnyddio i hyrwyddo addysg cyfrwng Gwyddelig yn Iwerddon.

Mae Mudiad Meithrin yn sefydliad sy’n angerddol am roi cyfle i bob plentyn yng Nghymru chwarae, dysgu a thyfu yn Gymraeg. Mae nifer o rieni di-Gymraeg wedi nodi eu bod yn teimlo eu bod wedi colli allan ar y cyfleoedd i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus dros y blynyddoedd ac maent yn awyddus bod eu plant yn cael cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg. Dewin a Doti 2 yw ail ap Mudiad Meithrin, ond yr adnodd cyntaf i gynnwys stori yn y Wyddeleg yn ogystal â fersiynau Makaton, a bydd yr ap yma’n gymorth i rieni i glywed a defnyddio’r Gymraeg gyda’u plant yn y cartref.

Mae’r ap Dewin a Doti 2 yn cynnwys 3 stori am gymeriadau hoffus Mudiad Meithrin, Dewin a Doti. Mae Dewin a’i ffrind ffyddlon Doti y ci yn bresennol yn ein holl Gylchoedd Meithrin i helpu plant i siarad Cymraeg, gan mai Cymraeg yw’r unig iaith mae Dewin a Doti yn ei siarad a’i deall.

Bydd yr holl e-lyfrau hyn i’w gweld ar yr ap yn ogystal â thaflenni gweithgaredd a gêm lotto. Maent ar gael i’w lawrlwytho trwy’r siop apiau ar bob platfform. Mae fersiwn Signalong ar gael gyda’r holl straeon Cymraeg hefyd.