MAE'R Rhaglen Waith, yr ail ers lansio Cymraeg 2050 yn 2017, yn nodi’r polisïau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu dros y pum mlynedd nesaf i gyrraedd targedau 2050.

Yn ogystal â chyrraedd miliwn o siaradwyr, mae nod hefyd i ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050.

Un o'r cerrig milltir interim yw sicrhau bod 30% o blant Blwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2031. I helpu i gyflawni hynny, mae'r Rhaglen newydd yn gosod targed i gynyddu canran y plant ym Mlwyddyn 1 a addysgir yn Gymraeg i 26% erbyn 2026, o 23% y llynedd. Byddai hyn yn cael ei gymell drwy agor o leiaf 60 o grwpiau meithrin cyfrwng Cymraeg ychwanegol erbyn 2026, yn ogystal â’r 40 a agorwyd dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Disgwylir i ganlyniadau Cyfrifiad 2021, y data swyddogol a ddefnyddir i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg, gael eu cyhoeddi erbyn mis Mawrth 2023. Ynghyd â data o'r Arolwg Defnydd Iaith, bydd y Cyfrifiad yn rhoi syniad cynnar o gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Bydd y Rhaglen Waith yn cael ei hadolygu a'i datblygu gan ystyried y canlyniadau, ochr yn ochr â data eraill.

Ymhlith y camau gweithredu a nodir yn y Rhaglen Waith, mae:

Cyflwyno Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg

Cyflwyno cynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg

Gwella cyrhaeddiad disgyblion yn y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg

Datblygu rhaglen i gefnogi defnydd o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc, gan ganolbwyntio ar bontio rhwng addysg, y gymuned, y teulu a'r gweithle

Creu Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg a defnyddio ysgogiadau economaidd i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith

Adnewyddu’r ffocws ar fanteision defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi ei hymateb i adroddiad diweddar ar effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Mae ein gweledigaeth ar gyfer ein hiaith yn un eangfrydig a chynhwysol ac rwyf am i bawb yng Nghymru deimlo bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom. Mae Cymraeg 2050 yn strategaeth hirdymor sy'n nodi cynllun a gweledigaeth ar gyfer creu dinasyddion dwyieithog sydd â'r gallu a'r cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

"Drwy gyhoeddi'r ddogfen hon yn gynnar yn nhymor y Llywodraeth hon, rydym yn cynnal y momentwm sydd wedi tyfu ers 2017 ac yn rhoi syniad clir i'n partneriaid o'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf.

"Rhaid inni gynllunio'n ofalus ac yn bendant i gynyddu nifer y plant a’r oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Rhaid inni greu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddynt a rhaid inni sicrhau bod yr amodau cywir yn bodoli i bobl ddefnyddio'r iaith gyda'i gilydd, boed hynny mewn cymunedau daearyddol neu rai rhithiol, mewn gweithleoedd neu mewn mannau cymdeithasol.

"Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid ledled Cymru i roi cyfle i gynifer o bobl â phosibl fwynhau dysgu a defnyddio'r Gymraeg."