MAE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi croesawu dwy wiwer goch fenywaidd ychwanegol i Goedwig Colcaenog yn ddiweddar.

Galluogodd y bartneriaeth barhaus rhwng CNC, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog (CRST) a Sw Mynydd Cymru yr hwb diweddaraf hwn i rifau’r wiwer goch yng nghoedwig Gogledd Ddwyrain Cymru fel rhan o raglen atgyfnerthu.

Dywedodd Richard Lester, Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i’r rhaglen hon sy’n helpu i gynyddu poblogaeth y wiwer goch yma yng Nghymru.

“Mae niferoedd y wiwer goch yn y goedwig yn parhau’n isel ond oherwydd y brwdfrydedd a’r gwaith caled gan y bartneriaeth, dylem ddechrau gweld y boblogaeth yn cynyddu. Rydym yn ddiolchgar i gyrff fel Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog sydd wedi bod yn sbardun i’r rhaglen atgyfnerthu yma yng ngogledd ddwyrain Cymru.”

Casglwyd y ddwy fenyw yn ddiweddar o’r Sw Fynydd Cymreig ac fe’u rhoddwyd mewn man amgaeedig cyn rhyddhau am dair wythnos i’w galluogi i ymgynefino â’u hamgylchedd newydd.

Yn ystod y cyfnod hwn, cawsant eu monitro’n ddyddiol gan wirfoddolwyr o CRST sy’n defnyddio camerâu llwybr.