EFALLAI na fyddwch chi’n gallu mynd yn bell ar wyliau eleni, ond mae’r awdur Ifan Morgan Jones wedi darparu’r ddihangfa berffaith – nofel Gymraeg wedi ei lleoli ar ynys drofannol ar ochr arall y byd.

Er mai cynnig “chwip o nofel antur” oedd y nod pennaf wrth ysgrifennu’r antur hon, dywed yr awdur bod y nofel hefyd yn trafod rhai o bynciau llosg pennaf y dydd.

Mae’r rheini’n cynnwys natur gwladychiaeth, newid hinsawdd a’r argyfwng tai yng Nghymru.

Meddai Ifan Morgan Jones “Mae’r nofel wedi ei lleoli ar ynys, felly dw i’n siŵr y bydd llawer o bobol yn meddwl fy mod i dan ddylanwad y pandemig Cofid wrth ei llunio hi. Ond rwy’n credu bod nifer o faterion pwysicaf y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn chwarae ar fy meddwl wrth ei hysgrifennu hi, fel ymgyrch Black Lives Matter, effaith newid hinsawdd a’r galwadau ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Yn Brodorion mae Efa, Myfyr, Teleri ac Aled yn cael cynnig i fynd ar antur fentrus, a gwyliau am ddim ar yr un pryd – sut allai’r pedwar wrthod cynnig o’r fath? Ond pan maen nhw’n glanio ar yr ynys egsotig ymhell o Gymru mae paradwys yn bell o fod yn berffaith.

Enillodd Ifan Morgan brif wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020 am ei nofel Babel, a chipio gwobr Barn y Bobl ar yr un pryd. Mae Brodorion gan Ifan Morgan Jones nawr ar gael (£8.99, Y Lolfa).