FEL Y gwyddom i gyd bellach, mae cyfyngiadau a chymhlethdodau Covid-19 wedi cael cryn effaith ar ddigwyddiadau cymunedol a chenedlaethol ers dechrau 2020. Serch hynny, mae criw o wirfoddolwyr brwdfrydig yng Nghorwen yn mynd ati’n ofalus i gynnal y seremoni flynyddol i gofio ein harwr cenedlaethol, Owain Glyndwr.

Ar Ddydd Owain Glyndwr, Medi 16, cynhelir seremoni wrth gerflun Owain Glyndwr ar y sgwâr yng Nghorwen am 11.00 o’r gloch y bore. Cyflwynir torch flodau ar y cerflun a cheir perfformiad gan Band Cambria. Croeso i bawb ddod draw i chwifio baner Owain Glyndwr.

Mae’n draddodiad i agor yr wyl yn flynyddol gyda darlith goffa mewn gwesty yng Nghorwen, ond eleni, ar-lein fydd y ddarlith, diolch i dechnoleg Zoom. Mae’r pwyllgor yn cydweithio â Menter Iaith Sir Ddinbych i drefnu’r ddarlith ar y nos Iau, Medi 16 i gychwyn am 7pm.

Bydd yr Athro Aled Gruffydd Williams yn darlithio ar y testun, “Owain Glyndwr trwy lygaid y beirdd”.

Bydd ‘mynediad’ am ddim, ond mae’n rhaid cofrestru gyda Menter Iaith Sir Ddinbych trwy e-bost menter@misirddinbych neu ffoniwch 01745 812822. Bydd lluniau o’r seremoni yng Nghorwen yn cael eu rhannu ar dudalen facebook ‘Dydd Owain Glyndwr’.