TYBED pa lyfrau ddaeth yn hosan Siôn Corn dros yr Wyl a beth fydd ar dy restr ddarllen yn 2022?

Wel, os am un llawn her a sialens, beth am bori yng nghloriau llyfr newydd Dewi Prysor, 100 Cymru: Y Mynyddoedd a Fi.

Yn 2015 daeth Dewi Prysor ar draws llyfryn Dafydd Andrews, Cant Cymru.

Llyfr bach wedi’i ddylunio i’w gario mewn bag cerdded ac yn cynnwys cyfarwyddiadau i gyrraedd can copa uchaf Cymru.

Dyma’r ysbrydoliaeth oedd ei angen ar Dewi i ddechrau’r her o gerdded pob un o’r 100.

Yn ôl Dewi: “Mae cyrraedd copa mynydd wastad yn deimlad gwefreiddiol.

"Ond dau beth sy’n well na chyrraedd copa mynydd; cyrraedd at gopa mynydd am y tro cyntaf a chyrraedd copa mynydd am y tro cyntaf mewn ardal na fues i erioed yn ei chrwydro o’r blaen.

"A dyna’r peth gorau am her Cant Cymru, nid dim ond cyrraedd copaon ardal ddiarth, ond cyfle hefyd i gael blas o’r ardal yn gyffredinol – hanes, diwylliant a chymeriad (a mwy) y fro a’i phobl.

"I mi, mae mynydda a chrwydro, meini hirion, carneddau, bryngaerau ac enwau lleoedd i gyd yn mynd law yn llaw, ac yn wirioneddol gyffrous.”

Yn ôl Dafydd Andrews, awdur y llyfr 1998 gwreiddiol: “Mae’n gyfrol hyfryd – lluniau ardderchog ac arddull cartrefol, darllenadwy.

"Dwi wrth fy modd ei fod o wedi'i seilio ar fy llyfr bach i.”

Mae 100 Cymru: Y Mynyddoedd a Fi a gyhoeddir gan y Lolfa ar gael nawr yn eich siopau Cymraeg lleol am £19.99.