HWRE, hwre, mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi dechrau, ac mae gwaith tîm tri o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus Cymru - BBC Cymru, ITV Cymru a S4C - yn golygu y bydd arlwy cynhwysfawr o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar deledu yn rhad ac am ddim yn ystod y pedair blynedd nesaf.

Unwaith eto, mae’r BBC, ITV a S4C wedi sicrhau’r hawliau i un o’r pencampwriaethau rygbi mwyaf. O dan y cytundeb, o 2022 hyd 2025, bydd y BBC yn darlledu holl gemau cartref Cymru yn Stadiwm y Principality. Bydd S4C yn darlledu holl gemau Cymru yn Gymraeg.

Mae’n bartneriaeth sydd wedi’i chroesawu’n fawr gan gyfarwyddwr cynnwys a gwasanaethau BBC Cymru, Rhuanedd Richards: “Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw gwylio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar deledu yn rhad ac am ddim i gartrefi ar draws y wlad. Mae gan y Bencampwriaeth le arbennig yng nghalonnau’r genedl."

Dywedodd Phil Henfrey, pennaeth rhaglenni newyddion ITV Cymru: “Mae’r Chwe Gwlad yn un o uchafbwyntiau’r calendr chwaraeon. Mae angen i Lywodraeth y DU ddiwygio a diweddaru’r hen ddeddfwriaeth ar frys i sicrhau y gall cyfryngau darlledu cyhoeddus barhau i gystadlu a ffynnu mewn marchnad ar-lein a marchnad fyd-eang sy’n tyfu mor gyflym.”

Bydd S4C yn dangos holl gemau dynion y Chwe Gwlad ar Clwb Rygbi Rhyngwladol.

Dywedodd Sian Doyle, prif weithredwr S4C: "Mae’n fraint cael cynnig darpariaeth Gymraeg o’r safon uchaf i’n cynulleidfaoedd gyda Sarra Elgan wrth y llyw ac i fod yn rhan flaenllaw o’r bencampwriaeth.

"Bydd ein rhaglen yn cynnig ymateb a dadansoddi o ansawdd mor uchel gydag arbenigwyr blaenllaw fel Ken Owens, Nigel Owens a chapten Cymru, Siwan Lillicrap."