ER bod yna sawl geiriadur daeareg ar gael yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill, hyd at eleni, doedd dim un ar gael yn Gymraeg.

Mae’r Lolfa newydd ryddhau’r geiriadur daearegol cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Awdur Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear yw’r awdur, golygydd a daearegwr amlwg Dr Dyfed Elis-Gruffydd.

Dywedodd D Geraint Lewis, awdur nifer o eiriaduron Cymraeg, a chyfaill i’r awdur: “Go brin bod yna neb sy’n gwybod mwy am wyneb Cymru a’r hyn sydd dan yr wyneb hwnnw na’r teithiwr a’r daearegwr Dr Dyfed Elis-Gruffydd.

"Pleser o’r mwyaf yw gweld Dyfed yn cyflwyno’r Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear - geiriadur termau unigryw sy’n cyfuno diffinio awdurdodol â threfn eiriadurol drylwyr, cyfrol yn wir, sy’n batrwm o’i bath.”

Mae i’r geiriadur ddwy ran, yn gyntaf, geiriadur sy’n diffinio dros 1,800 o dermau Cymraeg, ac yn ail, mynegai Saesneg – Cymraeg sydd yn cynnwys dros 2,000 o dermau Saesneg, ynghyd â’r termau Cymraeg cyfatebol.

Bydd y geiriadur o gymorth i ddisgyblion ysgol, myfyrwyr coleg, athrawon, darlithwyr a chyfieithwyr ac hefyd i’r chwilotwyr sydd â diddordeb arbennig mewn daeareg, geomorffoleg a daearyddiaeth ffisegol.

Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear gan Dr Dyfed Elis-Gruffydd, £9.99, Y Lolfa. Cofiwch gefnogi eich siopau llyfrau Cymraeg lleol!