WEDI cyfnod ansicr ac anwadal i gymunedau, mae llewyrch y gwanwyn a’r Pasg wedi dod a bwrlwm i ganolfannau cymunedol ledled yr ardal.

Wrth reswm, gyda gofal mae nifer yn ymgynnull a threfnu digwyddiadau, gyda mesurau diogelwch i liniaru’r risg o ledaenu Covid-19 yn flaenllaw.

Mae’r Neuadd Bentref yn Groes ger Dinbych wedi gweld ail wynt dros yr wythnosau diwethaf, gyda dau ddigwyddiad cyhoeddus yn tynnu pobl yn ôl at ei gilydd.

Neuadd Plwyf y Bylchau yw enw swyddogol y lleoliad, a thrwy fore coffi cymunedol a helfa Wyau Pasg, mae’r trefnwyr wedi codi £630 i elusennau yn Wcrain ac yn agosach at adref, The DPJ Foundation, elusen iechyd meddwl sy’n cefnogi trigolion sy’n byw yng nghefn gwlad.

Mewn cyfnod heriol, mae cymunedau yn tynnu ynghyd i gynorthwyo eraill.

Ac mae’n debyg y gellid nodi bod digon o angen personol gan unigolion a theuluoedd o ganlyniad i’r codiadau costau byw mawr sy’n wynebu trigolion ar hyn o bryd.

Ond diwylliant o rannu a rhoi sydd gennym ni yng Nghymru, a diolch am hynny. Gwnewch y pethau bychain, meddai Dewi Sant.

A thros gyfnod y Pasg, mae’n sicr bod nifer wedi rhoi wy Pasg, casgliad i goffrau capel neu eglwys a rhodd i elusennau lle mae gwir angen cymorth a chefnogaeth.

Felly diolch, diolch i bob un ohonoch sy’n cyfrannu yn fawr ac yn fach - mae bob un rhodd o gymorth i rywun.