YN ogystal â diwrnod o ddathlu gyda Magi Ann ar y dydd Llun, bydd bwrlwm yn parhau gydol yr wythnos ym mhabell y Mentrau Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Mae ffrind arbennig Magi Ann, Tedi, yn barod i fentro ar liwt ei hun gan lansio cyfres o 16 fideo byr i helpu teuluoedd gyda phlant ifanc i gael hwyl a chadw’n heini ar eu haelwyd eu hun!

Bydd cyfle i gyfarfod Tedi a Magi Ann mewn parti i ddathlu’r achlysur arbennig hwn ym mhabell y Mentrau Iaith, uned 58-59, ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Mawrth, Mai 31 am 2 o’r gloch.

Yn ystod y parti bydd un o sêr y fideos, y ddawnswraig a hyfforddwraig ffitrwydd Hanna Medi, yn arwain sesiwn byw Symud gyda Tedi - ac mae croeso mawr i unrhyw deulu ifanc ymuno yn yr hwyl! Bydd cyfle hefyd i weld rhai o’r fideos newydd ynghyd ag ymuno mewn llu o weithgareddau amrywiol.

 

Denbighshire Free Press: Siawns i chwarae gyda LegoSiawns i chwarae gyda Lego

 

Weddill yr wythnos, bydd cyfle i blant ychydig yn hŷn ddysgu am hanes lleol trwy chwarae gyda Lego a Minecraft, cymryd rhan mewn sesiynau gemau fideo, celf a chrefft a chyfle i rieni gael sgwrs gyda staff y Mentrau a chynrychiolwyr o RhAG (Rhieni Dros Addysg Gymraeg).

Ac wrth edrych mlaen at noson olaf Gwyl Triban a fydd ar y maes, bydd perfformiad acwstig gan Morgan Elwy am 1pm ddydd Sadwrn y 4ydd o Fehefin, tamaid i aros pryd ganddo gan y bydd yn perfformio ar lwyfan Gwyl Triban nes mlaen yn y dydd.

Cadwch olwg ar rwydweithiau cymdeithasol Menter Iaith Sir Ddinbych gydol yr wythnos i gael y diweddaraf am yr holl fwrlwm.