GYDA bron i 300 o blant a phobl ifanc wedi troi at y Gymraeg i fwynhau sesiynau gemau fideo ar-lein, diolch i Menter Iaith Sir Ddinbych, dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ei “bod hi’n wych gweld y gwaith mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn ei wneud”.

Rhannodd y Gweinidog ei sylwadau wrth iddo weld plant a phobl ifanc yn mwynhau sesiynau’r gêm fideo, Minecraft yn y Gymraeg a ddatblygwyd gan y Fenter, ar faes Eisteddfod yr Urdd, yn Ninbych, yn ddiweddar.

Mae gweld Menter Iaith Sir Ddinbych “yn arloesi ym maes technoleg ddigidol yn wych”, meddai’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

Bu tri gwirfoddolwr ifanc yn cynorthwyo Menter Iaith Sir Ddinbych i ddangos y gwaith digidol ar feddalwedd Minecraft i’r Gweinidog yn ystod ei ymweliad.

Elis ap Gwynfor, 14 o Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala; Mathew Jones, 11, o Ysgol Pen Barras, Rhuthun ac Meilir Morris, 12, o Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.

Yn ôl Elis o Gynwyd: “Mae gen i ddiddordeb mewn stwff digidol a dwi’n licio helpu a dangos i blant ac oedolion sut mae pethau’n gweithio. Dwi’n falch o’r cyfle i helpu Menter Iaith Sir Ddinbych.”

I Meilir o Ddinbych, y cyfle i wirfoddoli oedd yn bwysig. “Dwi’n hoffi gwirfoddoli, mae’n dda pan ti’n hŷn ac yn chwilio am swyddi ac mae chwarae gemau fideo yn lot o hwyl. Mae cael cyfuno’r ddau beth yn grêt!”

Un sydd wedi cael budd mawr o waith y Fenter yw Mathew Jones a’i deulu.

DARLLEN: Urdd Eisteddfod in Denbigh hailed as a 'major success'

Mae Mathew yn dairieithog, mae’n siarad Sbaeneg, Y Gymraeg a Saesneg.

I’w rieni di-Gymraeg, mae cael y cyfle i wirfoddoli i Fenter Iaith Sir Ddinbych yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl i elusen sy’n agos iawn at eu calonnau.

Yn ôl Roxanna Jones, 45, o Rhuthun, mam Mathew: “Dwi’n wreiddiol o Piura ger Peru yn Ne America.

"Des i Gymru 14 mlynedd yn ôl gyda’r teulu ac ymgartrefu yn y pen draw yn Rhuthun.

"Pan anwyd Mathew, roeddwn i’n benderfynol bod ganddo hunaniaeth gref, Cymreictod ei dad ac adnabyddiaeth o fy nhras Sbaenaidd innau.

“Roedd darganfod Menter Iaith Sir Ddinbych yn chwa o awyr iach i mi. Mae cymaint o ddylanwad Seisnig ac eingl-Americanaidd ar ein plant oherwydd technoleg ddigidol, ffilmiau, y teledu, a ballu.

"Pan ddes i ar draws Menter Iaith, gwelais y cyfleoedd roeddynt yn eu cynnig i Mathew, i gryfhau ei Gymraeg, mwynhau defnyddio’r iaith y tu allan i’r stafell ddosbarth a dod yn rhan o griw o bobl ifanc oedd yn gwneud defnydd o’r iaith yn eu bywydau bob dydd. Mae’n bwysig iawn iawn.”

 

Denbighshire Free Press:

 

Yn ôl Ruth Williams, o Menter Iaith Sir Ddinbych: “Cawson ni wythnos wych o weithgareddau ar faes yr Eisteddfod ac mae ein gwaith ni, wrth gwrs, yn parhau bob wythnos o’r flwyddyn.

“Roedd yn braf agor cil y drws ar peth o’n gwaith i Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Mae datblygu’r gêm Minecraft i Sir Ddinbych bellach yn talu ar ei ganfed, wrth i blant a phobl ifanc gael cyfleoedd i chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Diolch i Loteri Treftadaeth, llwyddon ni i brynu adnoddau a gwneud gwaith ymchwil i ehangu’r ddarpariaeth roeddem wedi ei sefydlu bedair blynedd yn ôl.

"Mae Castell Dinas Brân, tref gaerog canoloesol Dinbych a phentre Capel Celyn a foddwyd i greu Llyn Tryweryn i gludo dŵr i Lerpwl, wedi ymddangos yn y gêm."

Elfen arall o waith digidol y Fenter yw’r Clwb Gemau Fideo a sefydlwyd yn wreiddiol yn ystod y cyfnod clo yn 2020.

Trwy ddefnydd o Zoom a llwyfannau cymdeithasu digidol eraill, daeth cyfle i blant a phobl ifanc gyd-chwarae gemau amrywiol ar-lein, gyda swyddogion y Fenter yn cydlynu trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Erbyn hyn, rydym yn cydweithio’n agos â Mentrau Iaith ar draws y gogledd ac mae clybiau gemau fideo bellach yn cael eu cynnal yn fisol i grwpiau oedran cynradd ac uwchradd," ychwanegodd Ruth.

“Mae llwyddiant y Clwb Gemau Fideo wedi bod yn chwa o awyr iach. Bwriad y Clwb oedd newid y profiad Seisnig o chwarae gemau fideo i fod yn weithgaredd cymdeithasol Cymraeg ei iaith a’i naws.

“Trwy fynd i fyd plant a phobl ifanc, mae modd dylanwadu ar yr iaith chwarae a chynnig profiad newydd iddynt i rwydweithio â chyfoedion, gosod heriau i’w gilydd, gweithio mewn tîm a chyrraedd chwaraewyr ledled y gogledd.

"Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cydweithio â ni.”

Am fwy o wybodaeth am waith Menter Iaith Sir Ddinbych, cysylltwch â Ruth neu Gwion ar 01745 812822 neu e-bostiwch menter@misirddinbych.cymru