BYDD chwech o adeiladau hynafol ag ysblennydd Cymru, sydd dan ofal Cadw, yn troi’n theatrau awyr agored yr haf hwn, gan gynnig drama gomedi dychanol llawn rhialtwch i’r teulu i gyd am un o gymeriadau hanesyddol amlwg ein gwlad.

Felly byddwch yn barod i bacio’ch gwledd, eich medd a’ch sedd a setlo am noson o ddiddanwch!

'Yr Arglwydd Rhys - Y Cyrn yn erbyn y byd - A Oes Medd?' yw drama deithiol newydd sbon gan gwmni theatr Mewn Cymeriad am un o arwyr y Deheubarth - Rhys ap Gruffydd. Bydd digon o densiwn teuluol; colli ac ennill tir; barddoniaeth fydd neb yn deall... ond s’dim ots am hynny achos mi fydd yna gadeirio!

Wrth gael lot fawr o hwyl, dyma gyfle i’r teulu cyfan ddysgu rhywfaint am y gwr arbennig hwn.

Bydd y daith yn cychwyn yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Fercher, Awst 3 am 6.30yh, a hynny yn Abaty Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid sydd tafliad carreg o faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.

 

Denbighshire Free Press:

 

Cyfle gwych i deuluoedd sy’n ymweld â’r Brifwyl i gael gwledd o hwyl wrth ddysgu ychydig am ddarn o hanes Cymru, a hynny mewn adeilad hynod, llawn awyrgylch!

Mae’r Arglwydd Rhys yn enwog am gynnal yr Eisteddfod gyntaf nôl yn 1177, ac ef hefyd oedd un o brif noddwyr Abaty Ystrad Fflur – y lleoliad delfrydol felly i gychwyn taith y ddrama.

Mae’r ddrama wedi’u hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Janet Aethwy, a’r caneuon wedi’u cyfansoddi gan Mei Gwynedd a’r bardd Aneirin Karadog, ac yn rhan o’r cast mae Cadi Beaufort, Dyfed Cynan, Sion Emyr a Ffion Glyn.

Bydd y sioe yn cyrraedd Castell Dinbych nos Wener, Awst 12 gyda’r perfformiad yn cychwyn am 6.30yh.

Ceir fwy o wybodaeth a gellir archebu tocynnau o'r wefan www.mewncymeriad.cymru

Dyma’r tro cyntaf i gwmni Mewn Cymeriad greu sioe deuluol.

Wedi’i sefydlu bron i ddeng mlynedd yn ôl, mae’r cwmni wedi darparu llu o sioeau rhyngweithiol, un cymeriad, i ysgolion cynradd drwy Gymru gyfan.

DARLLEN: Cydweithio i rannu hanes cymeriadau Cymru

Meddai Eleri Twynog, cyfarwyddwr a sylfaenydd Mewn Cymeriad: “Ein bwriad yw i gyflwyno darn o hanes Cymru, gall y teulu cyfan ei fwynhau, a hynny yn yr awyr agored – fel yr hen anterliwtiau slawer dydd.

"Mae’r stori a’r cymeriad yn berthnasol iawn i Geredigion, a’n gobaith fydd cyflwyno rhywbeth yn flynyddol fydd â cysylltiad agos ag ardal yr Eisteddfod, cyn teithio lleoliadau dros Gymru.”