MAE Carol yr Ŵyl yn ôl am y tro cyntaf ers 2019, a bydd y ciwt ffactor yn amlwg wrth i blant ysgolion cynradd ganu carolau gwreiddiol gan obeithio ennill teitl - Carol yr Ŵyl 2022.

Bydd y gantores Bronwen Lewis, yn beirniadu am y tro cyntaf eleni ac yn ein tywys ar wibdaith Nadoligaidd ar draws Cymru.

Bydd hi hefyd yn cael cwmni un arall o feirniaid Carol yr Ŵyl sef y cerddor Robat Arwyn, o Rhuthun, wrth i ni glywed ymdrechion 11 o ysgolion cynradd sydd wedi cyrraedd y

rhestr fer eleni.

O stori’r geni, i’r rhyfel yn Wcráin i anrhegion Sion Corn mae’r amrywiaeth mor

eang â phob hosan Nadolig.

Ma’ Robat Arwyn wedi beirniadu yn y gorffennol.

Dywedodd: “Ma’ hi’n gystadleuaeth unigryw ac yn hoelio sylw pawb ar neges y Nadolig - y diniweidrwydd, y gobaith, y cariad a’r llawenydd - ac mae hynny’n berthnasol i bob un ohona ni, beth bynnag ein crefydd, beth bynnag ein cred. Ac mae rhannu hynny ar gân yn cydio’n y galon yn syth.”

Carol yr Ŵyl

Nos Wener, Rhagfyr 23 (8.25yh ar S4C)

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill