BYDD dramedi newydd sbon am ferch ifanc sy’n benderfynol o ddilyn llwybr ei hun ar daith ym mis Chwefror.

Betsan Ceiriog sy'n serennu yn y ddramedi newydd Gymraeg, Croendena, gan Cwmni Fran Wen.

Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion. Hogia, hela a ffymbls maes parcio'r National Trust.

Mae'r haf ar droed.

Mae’r gens yn barod am bartis ac mae bywyd yn llawn posibiliadau.

Tra bod rhai perthnasau’n blodeuo, mae eraill yn dirywio. Ond ydi Nel yn gallu delio hefo hyn?

Mae Nel yn 17 oed ac yn darganfod dihangfa yn y pyb ar ben yr allt sy’n llawn fflyrtio, rhagfarnau a lloriau sdici.

Dyma stori ddigri a thorcalonnus am fywyd merch ifanc sy’n trio ffendio’i thraed ynghanol unigrwydd gwledig.

Betsan Ceiriog sy'n serennu yn y ddramedi Gymraeg newydd yma gan y dramodydd ifanc Mared Llywelyn sy’n un o leisiau mwya’ cyffrous theatr Cymru.

Yn gomisiwn newydd gan Frân Wen, mae’r fonoddrama yn cael ei chyfarwyddo gan Rhian Blythe.

Bydd Croendena yn cyrraedd Theatr Derek Williams, Y Bala, ar Chwefror 8 (7.30pm).

Yn ogystal, bydd Croendena ar lwyfan Theatr Twm o'r Nant, Dinbych, ar Chwefror 11 (7.30pm).

Taith:

Chwefror 2-4: Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Chwefror 6-7: Theatr Fach, Llangefni.

Chwefror 8: Theatr Derek Williams, Y Bala.

Chwefror 9-10: Pontio, Bangor.

Chwefror 11: Theatr Twm O'r Nant, Dinbych.

Chwefror 14: Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron.

Chwefror 16-17: Theatr y Sherman, Caerdydd.

Chwefror 20-21: Galeri, Caernarfon.