OS fyddech chi’n cael y cyfle i rannu llwyfan gydag unrhyw un, pwy fydden nhw?

Ydi, mae Canu Gyda Fy Arwr yn ôl!

Mae’r canwr Rhys Merion wedi cael y profiad bythgofiadwy o ganu gyda rhai o enwau mawr y byd cerddorol, ac yn y gyfres Canu Gyda fy Arwr, mae o wedi bod yn rhoi’r un profiad i eraill.

Ac mae pennod olaf y gyfres yma ychydig bach yn wahanol.

Y tro hwn, mi fydd Rhys yn cael canu gyda rhai o’i arwyr cerddorol o.

Ac un ohonynt yw’r seren roc o ogledd ddwyrain Cymru sy’n enw adnabyddus dros y byd, Mike Peters.

Mike yw sefydlydd un o fandiau mwyaf Cymru, The Alarm, sydd wedi gwerthu miliynau o albymau.

Nid oedd yn rhaid i Rhys feddwl yn rhy hir am ei ddewis fel arwr, ar ôl edmygu gwaith Mike ers blynyddoedd.

Yn ddiweddar, mae Mike wedi derbyn triniaeth am leukemia, salwch y mae o wedi’i wynebu ers 1995. A chyn i Rhys fynd ati i ymarfer a cwrdd â Mike, derbyniodd gwahoddiad gan ei wraig Jules i gymryd rhan yn nhaith gerdded blynyddol y Love Hope Strength Foundation, sy’n codi arian ac ymwybyddiaeth er lles pobl â chancr.

Mae’r elusen, sy’n cael ei redeg gan Jules a Mike, wedi troi rhywbeth negatif i wneud dylanwad positif ar fywydau llawer o bobl.

Mae’r enw Love Hope Strength yn cyfeirio at un o ganeuon The Alarm, ac mae yna eiriau Cymraeg iddi, sydd erioed wedi’u recordio. Tan rŵan.

Gobaith Rhys Meirion a Mike Peters yw fod y recordiad arbennig yma am gael ei ryddhau fel sengl elusennol i godi arian i’r elusen Love Hope Strength.

Canu Gyda fy Arwr

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill