BYDD noson o gerddoriaeth ar gael yn Y Bala yn nghanol Mis Chwefror.

Mae’n bleser gan Theatr Derek Williams groesawu yr anhygoel o amryddawn Pedair i’r llwyfan.

Bydd Pedwar yn Y Bala ar nos Sadwrn, Chwefror 18 (7.30yh).

Dyma brosiect bendigedig Sian James, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Gwenan Gibbard – pedair sydd wedi ein llorio dros y blynyddoedd gyda’u gweithiau cerddorol gwerinol.

Bydd Pedair yn perfformio deunydd oddi ar eu halbwm ddiweddaraf, ‘Mae ‘Na Olau’, ac yna, bydd y pedair yn eu tro yn perfformio eu deunydd unigol.

Bydd yn noson i’w thrysori, heb os.

Mae tocynnau, pris £18, ar gael o theatrderekwilliams.cymru

Mae Theatr Derek Williams yn cael ei rhedeg yn rhannol wirfoddol i ddod â ffilmiau, dramau, cerddoriaeth fyw, a gweithdai o bob math i ardal Y Bala a thu hwnt.

Am fwy o wybodaeth ar sioeau, cyngherddau a ffilmiau, ewch i theatrderekwilliams.cymru/digwyddiadau/