MAE Menter Iaith Sir Ddinbych wedi derbyn gwobr genedlaethol yn nigwyddiad Dathlu’r Mentrau Iaith am eu gweithgareddau Minecraft a Lego i blant a phobl ifanc.

Mewn digwyddiad arbennig yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd i ddathlu gwaith y mentrau iaith sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ledled Cymru, daeth cyfle i’r elusen, sy’n gweithio yn Sir Ddinbych, rannu hanes eu cynllun ac ymfalchïo yn eu llwyddiant o dderbyn y wobr.

Yn ôl Ruth Williams, prif swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych: “Rydyn ni, fel tîm, yn falch iawn o lwyddiant y cynllun ac mor ddiolchgar o gael ein cydnabod yn y gwobrau cenedlaethol yma.

"Roedd hi’n braf iawn i dri ohonom gael mynychu seremoni fawreddog yng Nghaerdydd a chael clywed ein bod wedi dod i’r brig!

“Daeth prosiect Bocs Trysor i fodolaeth yn ystod clo mawr y pandemig pan welwyd y cyfle i weithio yn ddigidol trwy’r Gymraeg er mwyn cyrraedd at blant a phobl ifanc yn ddiogel.”

Gyda nawdd o gronfa’r Loteri Treftadaeth, llwyddwyd i ddatblygu peilot gweithgareddau Minecraft gyda phlant er mwyn parhau i gynnig cyfleoedd chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae hyrwyddo treftadaeth lleol yn dod â’i cynefin yn fyw,” eglura Ruth.

“Trwy dderbyn y nawdd, dyma gyfle i ni ddatblygu’r peilot a chreu adnodd a oedd yn cyflwyno hanes lleol, treftadaeth ei milltir sgwâr i blant a phobl ifanc.

“Trwy chwarae a chymdeithasu o fewn y gweithdai Lego a Minecraft yn ddigidol ac yn nes ymlaen mewn sesiynau wyneb yn wyneb, roedden ni’n gallu cynnig darpariaeth cymdeithasol oedd yn apelio at y plant trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae derbyn cydnabyddiaeth am y gwaith yn dod a balchder mawr i ni gyd.”

Mae’r cynllun Bocs Trysor wedi sicrhau bod dros 600 o blant a phobl ifanc wedi dod a

• Chastell Dinas Brân

• Tref gaerog canoloesol Dinbych

• Pentre Capel Celyn

• Tref farchnad Rhuthun

• A sawl lleoliad hanesyddol arall yn y sir yn fyw oddi fewn i’r gemau

Fel rhan o’r gwaith datblygu, bu’n rhaid i’r Fenter fuddsoddi mewn offer digidol a hyfforddiant i ddefnyddio ‘servers’ penodol ar gyfer Minecraft, gan gysylltu â nhw ar ddyfeisiadau gwahanol a throsglwyddo gwybodaeth yn hwylus i bawb gyrraedd at y dechnoleg.

Ychwanegodd Gwion Tomos-Jones, swyddog plant a phobl ifanc y Fenter: “Y gwir ydi erbyn hyn, y gallwn ni gynnal gweithdai mewn mwy o leoliadau hanesyddol fel cestyll neu ar ben bryngaerau Bryniau Clwyd, i gynnig profiad uniongyrchol o ardal neu leoliad hanesyddol i bobl ifanc.

"Gyda chefnogaeth ariannol pellach, does dim rhwystrau."

Yn ôl cadeirydd Menter Iaith Sir Ddinbych, Arwel Roberts: “Mae’r Bocs Trysor wedi llwyddo oherwydd syniadau beiddgar ac ysgogiad staff y Fenter a gyllidir gan Llywodraeth Cymru a’r cydweithio ariannol gan y Loteri Treftadaeth.

“Rydym yn ymfalchïo bod y criw bach o staff wedi derbyn y wobr genedlaethol hon am eu gwaith gan sicrhau adnodd credadwy a llwyddiannus sy’n hawdd i’w efelychu mewn ardaloedd eraill.

“Roedd derbyn clod a diddordeb Gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles yn y cynllun nôl ym mis Mai ar faes Eisteddfod yr Urdd, hefyd yn gydnabyddiaeth o ddyfesigarwch y criw. "Llongyfarchiadau mawr i bawb."