DYDD Gŵyl Dewi hapus i chi.
Gobeithio cewch chi ddiwrnod da, ble bynnag yr ydych eleni.
Mae hwn yn gyfnod o bryder ac ansicrwydd i rai. Ond mae heddiw yn gyfle i bawb ddod at ei gilydd a dathlu ein Cymreictod.
Cyfle i ni ddangos pwy ydym ni, a beth sy’n bwysig i ni.
Mae Cymru’n genedl sy’n falch o fod yn agored a blaengar.
Cenedl o gymunedau clos, sy’n credu’n gryf mewn cyfiawnder a thegwch i bawb.
Cenedl o Noddfa, sy’n rhoi croeso i bobl sy’n ffoi rhag rhyfel ac eisiau lle saff i fyw.
Cenedl sy’n arwain y byd wrth ddod yn gynaliadwy, yn Gymru sero net,
A chenedl i fusnesau, pobl greadigol ac arloeswyr lwyddo.
Mae gennym hanes hir, diwylliant lliwgar ac unigryw, a iaith i’w thrysori – Cymraeg.
Rydym yn wlad o chwaraeon ac o ganu. Ond llawer mwy na hynny hefyd.
Heddiw, mae’r Gymru fodern yn arloesol, yn gynhwysol – ond yn fwy pwysig na dim, mae Cymru yn garedig.
Ble bynnag yr ydych yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi – mwynhewch!
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here