MAE Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019 ac yn cael ei gynnal ar Mawrth 5 am 6yh yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Mae’r ysgoloriaeth wedi helpu nifer o berfformwyr ifanc i gyrraedd llwyfan proffesiynol ac, mewn sawl achos, wedi arwain at yrfa ryngwladol.

Mae panel o feirniad wedi dewis y chwe chystadleuydd mwyaf addawol o fewn y categori oedran hŷn o dan 25 oed yn dilyn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022, i ymgeisio am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2022 eleni.

Y chwech fydd yn cystadlu am yr Ysgoloriaeth eleni fydd Fflur Davies (Cylch Arfon), Gwenno Morgan (Aelwyd Llundain), Ioan Williams (Adran Bro Taf), Mali Elwy (Adran Bro Aled), Owain Rowlands (Aelod Unigol Blaenau Tywi) a Rhydian Tiddy (Cylch Blaenau Tywi).

Ar noson yr ysgoloriaeth, bydd Barri Gwilliam, Sioned Terry, Bethan Williams-Jones a Gwennan Gibbard yn beirniadu y chwech.

I archebu tocyn ar gyfer noson yr ysgoloriaeth Mawrth 5, cliciwch ar y linc https://www.urdd.cymru/cy/eisteddfod/2023/ysgoloriaeth-yr-urdd-bryn-terfel-2022/

Bydd y noson hefyd ar gael i’w wylio ar S4C ar nos Sul y 12fed o Fawrth.