HIR yw pob ymaros, yn ôl y sôn, ac i ni fel Cymry, rydyn ni wedi gorfod aros yn hir am hon... y ffilm Gymraeg gyntaf ers oes aur ffilmiau Cymraeg yr 80au, ‘Y Sŵn,’ gan Roger Williams wedi ei chyfarwyddo gan Lee Haven Jones.

I ni yn Ninbych, cawsom y fraint o’i gwylio ar ein stepen drws yn ein theatr gymunedol, Theatr Twm o’r Nant.

Mi oedd hi’n dipyn o sgŵp ei chael hi yma, wrth i ni gystadlu â’r theatrau mawrion ym Manceinion, Llundain, Lerpwl a Chaeredin heb sôn am theatrau eraill Cymru sydd hefyd wedi cael y fraint o’i chyflwyno am y tro cyntaf i gynulleidfaoedd eu milltir sgwâr.

“Mae gennym ni berl yn Ninbych,” eglura Ruth Williams, prif swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych.

“Mae gennym ni, nid yn unig ofod cymunedol o safon yn y dref, ond yn fwy na hynny, yr awydd a’r brwdfrydedd gan griw o wirfoddolwyr Theatr Twm o’r Nant a Chlwb Ffilmiau Dinbych i redeg y Clwb Ffilmiau misol yma.

“Eu gweledigaeth nhw, fel criw gweithgar lleol sydd wedi sicrhau bod cyfle i ni fod mewn cwmni da yn Theatr Twm o’r Nant wrth rannu’r ffilm newydd sbon danlli yma, ‘Y Sŵn,’ gyda chynulleidfa o Ddyffryn Clwyd. Ac mae hi’n dipyn o egsgliwsif, gan mai Sul y Pasg y bydd gweddill y genedl yn ei gweld hi am y tro cyntaf ar y sgrin fach, ar S4C!”

Ers ail gydio yn y Clwb Ffilmiau wedi’r pandemig, mae’r clwb yn mynd o nerth i nerth, a bellach wedi cau’r llyfrau ar gofrestru aelodau newydd, oherwydd y poblogrwydd.

“Mae cyfle i bobl sydd ddim yn aelodau fynychu’r ffilmiau, ac maen nhw’n nosweithiau poblogaidd iawn, yma,” meddai Edwina Stephen un o’r criw gwirfoddolwyr.

“Mae’n braf iawn gallu tynnu pobl ynghyd i wylio ffilmiau o bob math ar eu stepen drws, yma yn Ninbych.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Fenter Iaith Sir Ddinbych, sydd mor barod i’n cefnogi drwy gynorthwyo i hyrwyddo ein ffilmiau Cymraeg a Chymreig. Mae ganddyn nhw'r rhwydweithiau i gyrraedd at bobl yn ddigidol a chyda’i dilynwyr nhw, maen nhw’n ein helpu i gynnig arlwy Gymraeg o safon i’n cynulleidfa graidd.”

Cynhyrchiad ar y cyd rhwng S4C a chwmni Joio yw Y Sŵn sy’n rhannu hanes ein cenedl ar droad 1980au.

Dyma gyfnod y frwydr fawr i sicrhau tegwch i’r Gymraeg, platfform i’r iaith yn natblygiad darlledu a sefydlu’r Gymraeg fel iaith o werth, yn wyneb heriau Thatcheriaeth Llundeinig unllygeidiog.

Ond da chi, peidiwch â meddwl mai ffilm sych hanesyddol draddodiadol yw hon.

Mae’n fwrlwm o’r theatr, yn lliwgar a’r byrlymus ac yn gyfoes iawn ei gwedd.

O’r gwisgoedd a’r prosthetics, yr acenion a’r cymeriadu, mae llif y stori’n cael ei uchafu trwy’r defnydd o benawdau graffeg cyfoes rhwng golygfeydd sy’n sicr o apelio at y to iau a’i byd Instagramaidd.

I mi, y cymeriadu fu’r campwaith ac mae cyfran o’r clod hwnnw angen mynd i’r meistri gwisgoedd a cholur. Na, doedd dim pwyslais o du’r cyfarwyddwr i greu dynwarediadau clos o’r cymeriadau hanesyddol, yn ôl Daniel Lloyd, a gymrodd ran mewn sesiwn holi ac ateb, wedi’r perfformiad yn Twm o’r Nant. Ond yn hytrach, creu portreadau argraffiadol ohonynt. Ac mi lwyddodd bron i bob un actor Cymreig y campwaith honno.

Braf oedd clywed o lygad y ffynnon, gan Daniel, fu’n cymeriadu’r bythol annwyl Merêd a Steffan Wilson Jones, cyw actor gynhyrchydd o Rhuthun, fu’n bwrw ei brentisiaeth ar Y Sŵn. Fel Cynorthwyydd Cynhyrchu i gwmni Joio, roedd hi’n braf gweld Steff, un o blant Theatr Ieuenctid Dyffryn Clwyd fy nghyfnod i a’r diweddar Eirwyn Evans, yn parhau yn y byd celfyddydol. Mi ychwanegodd y sesiwn ddyfnder ychwanegol i’r ffilm i gynulleidfa ffodus Dinbych.

Gwefr arall y ffilm oedd y traciau sain a ychwanegodd at awyrgylch a naws y naratif, gyda gwaith ymchwil fanwl a dealltwriaeth gaboledig o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg a sicrhaodd bod bob trac yn gweddu i olygfa neu gyfnod.

I mi, fel plentyn yr wythdegau, roedd y ffilm yn dwyn i gof gyfnodau o fy magwraeth ar aelwyd amaethyddol Gymraeg yn Nyffryn Conwy.

Wrth gwrs â mam yn genedlaetholwraig frwd, yn weithgar gyda’r Blaid ac enw Dafydd Êl, fel hen ewythr caredig ar ein haelwyd, roedd arlliw o’r stori a’r cyfnod wedi serio yng nghrombil fy isymwybod.

Er gwaethaf hyn, fel un na chafodd hanes Cymru fel rhan o’r cwricwlwm addysgol yn yr ysgol, mae hon yn ffilm sy’n gosod y manylion, yn addysgu’r genhedlaeth nesaf o’i draddodiad ac yn bendant yn dangos yr aberth a wnaed gan gynifer dros ein sianel Gymraeg, ein hiaith a’n diwylliant.

Roedd heriau enfawr yn wynebu Gwynfor Evans, y werin bobl, Cymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru yn ystod y cyfnod. Heriau sydd, er gwaethaf 40 mlynedd, yn parhau i’n hwynebu ni heddiw.

Ond, dyma ffilm sy’n gosod y seilwaith, yn cofnodi’r aberth, ac yn atgoffa’r giwed o blant a phobl ifanc heddiw bod rhaid parhau i frwydro ac yn bwysicach fyth i werthfawrogi’r cyfan a wnaed. A’r ffordd bwysicaf o wneud hynny yw defnyddio’r iaith ym mhob twll a chornel o’n bywydau brau ddigidol dechnolegol.

Ddarllenwyr brwd, anogwch y genhedlaeth nesaf i ymdawelu ac i wylio, Y Sŵn (Isdeitlau Cymraeg a Saesneg ac ar gael ar alw: S4C Clic; BBC iPlayer a llwyfannau eraill).

Llongyfarchiadau enfawr i’r cast, y criw cynhyrchu, i S4C a Joio am roi dechrau rhagorol i ail don o ffilmiau Cymraeg ein dyfodol, gobeithio!