MAE traddodiad llenyddol y Gymraeg yn mynd yn ôl dros fil a hanner o flynyddoedd ac un o’r pethau sydd wedi bod yn rhan amlwg o’r gwaddol hon o’r dechrau un yw diarhebion.

Mae’r gyfrol newydd hon yn addas ar gyfer pawb sy’n siarad Cymraeg – yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf.

Diolch i’r Lolfa, mae Y Diarhebion: Casgliad o Ddiarhebion Cyfoes, yn gyfrol o ddiarhebion sy’n addas i’w defnyddio heddiw.

Yn ôl awdur y gyfrol, D Geraint Lewis: “I’r casglwyr gwreiddiol, y diarhebion oedd olion o ddoethineb yr hen dderwyddon.

"I’r ysgolion barddol, enghreifftiau oeddynt i’w dysgu fel ffordd o fynd ati i greu llinellau teilwng o farddas, ac i ysgolheigion y Dadeni Dysg dyma drysorau o draddodiad llenyddol hyfyw hynaf Ewrop.

"Amcan y gyfrol fach hon yw dethol o blith y miloedd o enghreifftiau, rai o'r dywediadau pert sy’n siarad â ni heddiw yn ein Cymru ddwyieithog.”

DARLLEN: Ar antur fawr i ddysgu Cymraeg

Rhestrir y diarhebion yn ôl gair arwyddocaol yr ymadrodd, er hwylustod.

Er mwyn ceisio cyflwyno ystyr y ddihareb heddiw, rhestrir casgliad o ymadroddion a diarhebion Saesneg, sydd ddim bob amser yn cyfieithu’r geiriau Cymraeg ond sy’n cyfateb i ergyd y ddihareb Gymraeg.

Mae D Geraint Lewis yn awdur toreithiog sydd wedi llunio nifer fawr o eiriaduron a llyfrau ffeithiol o bob math.

Yn wreiddiol o Ynys-y-bwl mae wedi ymgartrefi yn Llangwyryfon, Ceredigion.

Y Diarhebion Casgliad o Ddiarhebion Cyfoes / A Compendium of Contemporary Welsh Proverbs gan D Geraint Lewis (Cyfres Geirlyfr Y Lolfa Wordbook) ar gael nawr am £9.99 yn eich siop lyfrau lleol.