MAE Menter Iaith Sir Ddinbych yn cydweithio gyda chriw gwirfoddol Theatr Twm o’r Nant yn Ninbych i hyrwyddo cyngerdd arbennig gyda’r cerddor sy’n enedigol o Ddinbych, Rhisiart Arwel, a’i gitâr.

Cyngerdd o weithiau poblogaidd Cymreig, Sbaenaidd a De America ar gyfer y gitâr fydd yr arlwy yn Theatr Twm o’r Nant, nos Iau, Ebrill 28 am 7.30yh, diolch i gefnogaeth cynllun Noson Allan.

Bydd cyflwyniadau’r noson gan Rhisiart ei hun, yn ddwyieithog, ac mae’n awyddus i weld dysgwyr ymhlith y gynulleidfa, gan fod Rhisiart hefyd yn diwtor Cymraeg, yn ogystal â bod yn gerddor amryddawn.

Efallai eich bod eisoes wedi clywed synau peraidd ei gitâr ar ei gryno ddisg ddiweddaraf, Encil a ryddhawyd llynedd?

Mae wedi cyfansoddi a threfnu nifer fawr o ddarnau ar gyfer ei offeryn ac mae dylanwad Sbaen a De America yn gryf ar ei waith, diolch i’r berthynas agos sydd ganddo â Phatagonia a’r Ariannin.

DARLLEN: Ein diarhebion mewn cyfrol newydd!

Mae’n chwarae darnau o weithiau sawl cyfansoddwr Archentaidd megis Ariel Ramirez, Abel Fleury a Jorge Cardoso.

Wedi ei fagu yng Nghorwen a derbyn ei addysg yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, aeth Rhisiart ymlaen i astudio’r gitâr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd (RNCM) ym Manceinion gyda John Aran a Gordon Crosskey.

Yn ddiweddarach, derbyniodd ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i astudio ymhellach ym Madrid gyda Ricardo Iznaola ac yn Llundain gyda John Duarte.

Mae Rhisiart wedi perfformio’n rheolaidd ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys ymddangosiad yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain, ac mae wedi perfformio’n gyson ar y radio a’r teledu.

Bydd cryn edrych ymlaen at ei glywed yn canu’r gitâr yn Ninbych, felly’r neges glir yw, dewch yn llu!

Mae tocynnau yn £10 ac ar gael o Siop Clwyd neu trwy alw Gaynor Morgan-Rees ar 01745 812349.

Diolch i Noson Allan am eu cefnogaeth.