AR nos Sul, cyhoeddwyd i neuadd lawn yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth mae’r perfformiwr theatrig Mali Elwy, o Adran Bro Aled, yw enillydd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2022.

Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn llwyfan bwysig a dylanwadol i sawl gyrfa ddisglair dros y blynyddoedd.

Yn ogystal â chipio’r teitl Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel, cyflwynir ysgoloriaeth o £4,000 i Mali Elwy fel gwobr am ennill y gystadleuaeth.

Sioned Terry, Gwennan Gibbard, Barri Gwilliam, Bethan Williams–Jones a Huw Garmon gafodd y dasg anodd o feirniadu’r gystadleuaeth, ac roedd canmoliaeth uchel i holl gystadleuwyr y noson.

DARLLEN MWY: Ysgoloriaeth Bryn Terfel i ddychwelyd am y tro cyntaf ers 2019

Dywedodd Gwenno Davies, cadeirydd bwrdd Eisteddfod yr Urdd: “Roedd y beirniaid i gyd yn cytuno fod hon yn gystadleuaeth agos iawn wrth i bob un serennu yn eu maes ar y llwyfan heno.

"Yn ddi-os, mae dyfodol disglair o flaen pob un yn eu maes ac edrychwn ymlaen i ddilyn eu llwyddiannau i gyd, bob un.

“Ond heno, roedd un perfformiad wnaeth wirioneddol gydio a chyffwrdd ym mhob un o’r beirniaid.

"Ar ran yr Urdd a’r panel beirniadu, hoffwn longyfarch Mali Elwy ar ennill Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2022.”

Y chwe chystadleuydd oedd yn cystadlu am deitl Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel oedd Fflur Davies (Cylch Arfon), Gwenno Morgan (Aelwyd Llundain), Ioan Williams (Adran Bro Taf), Mali Elwy (Adran Bro Aled), Owain Rowlands (Aelod Unigol Blaenau Tywi) a Rhydian Tiddy (Cylch Blaenau Tywi).

Dewiswyd y chwech gan banel o feirniaid yn seiliedig ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.